Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfarfod Misol. Yr oeddis yn Nghyfarfod Misol Pennal flwyddyn cyn hyny wedi penderfynu i eglwysi rhwng y Ddwy Afon gyfranu 30p. tuag at gapel y Cwrt, gan nodi swm penodol ar gyfer pob eglwys. Gwasanaethwyd ar ei agoriad y tro hwn gan y Parchn. Richard Humphreys, Dyffryn; David Davies, Penmachno, a Joseph Thomas, Carno. Yn amser y Diwygiad 1859 a 1860, ychwanegwyd llawer at yr eglwys, a thua yr un adeg cynyddodd y boblogaeth yn fawr iawn, mewn canlyniad i lwyddiant chwarel Bryneglwys, a bu raid adeiladu y capel drachefn. Yn 1866 adeiladwyd ef i'w faint presenol, fel y crybwyllwyd, mewn lle newydd, yr ochr arall i'r afon. Cafwyd y tir gan yr Aberdovey Slate Company, ar brydles o 999 o flynyddau, am ardreth o 10s. y flwyddyn. Y nifer all eistedd ynddo, yn ol Adroddiad o Feddianau y Cyfundeb, 1883, ydyw 358. Gwerth presenol y capel, 1000p. Yn 1845 adeiladwyd capel bychan Penmeini, yn ardal Llanfihangel, a thrwy hyny cyflawnwyd dymuniad yr hen efengylwr, W. Hugh, o'r Llechwedd, ymhen un mlynedd ar bymtheg ar ol ei farw. Yr amser hwn, a thros rai blynyddau wedi hyn, yr oedd yr ardal fechan hon yn fwy poblog, a'r gynulleidfa yn Penmeini yn fwy blodeuog na'r gynulleidfa yn Cwrt. Ond y mae Rhagluniaeth wedi rhoddi tro yn yr olwyn drachefn, ac erbyn hyn nid yw capel Penmeini ond llwydaidd yr olwg arno, a'r gynulleidfa yn fechan. Dylid crybwyll hefyd fod y capel ddechreu y flwyddyn hon (1887) wedi ei adnewyddu o'r tu mewn, a'i wneuthur yn dra chysurus. Buwyd lawer pryd yn son am symud y capel yn nes i'r Llan. Y mae Ysgol Sul hefyd yn cael ei chynal er's rhai blynyddoedd yn Bryneglwys, yn nghwr dwyreiniol yr ardal, a phregethir yno yn achlysurol.

Ar ol cychwyn yn dda bu llawer cyfnod o iselder ar yr achos yn Abergynolwyn, a hyny oherwydd tlodi a bychander rhif yr eglwys. Ar un adeg lled gynar yn ei hanes, bu agos i'r eglwys adael i'r Ysgol Sul fyned i lawr yn hollol. Yr oedd hyn yn amser William Hugh, ac efe fu yn foddion i'w gwaredu rhag