Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hen bobl, rai o honynt dros 80 oed. Richard Jones oedd yn gwneyd pob peth yn holi y plant, ac yn eu canmol wrth eu holi. 'Wel,' meddai ar ol darfod gyda'r plant, fe holwn ni dipyn 'rwan ar y plant mawr,' ac yr oedd yn hynod gartrefol gyda hwy. Efe oedd yn dechreu y seiat trwy weddi, a gweddi ryfedd ydoedd; dywedai yn debyg i hyn: 'Arglwydd mawr, dangos dy drugaredd i ni—tyr'd atom—cadw ni—dyro fywyd i ni—gwna i ni gyfodi ar ein traed. 'Dyda' ni ddim am ofyn i ti am bethau mawr—dyda' ni ddim yn gofyn am bethau mawr genyt ti 'dyda' ni ddim yn gofyn i ti ein gwneyd ni yn frenhinoedd ac yn freninesau——gwell genym ni fod yn ein cabanau ein hunain—gwell genym ni fod yn ein bratiau— 'dyda' ni ddim am ofyn am gael bod yn frenhinoedd ac yo freninesau; ond dyro dy hun i ni—gwna ni yn blant i ti— tyr'd dy hunan i'n plith ni——gwna dy drigfanau gyda ni, Arglwydd mawr!'" (Amen, amen, amen.) "Yr oeddynt," ebe S. Jones, "yn bobl mwyaf annhebyg i fod yn frenhinoedd ac yn freninesau a welais i erioed;" a dywedai ei fod ef yn chwerthin ac yn wylo bob yn ail wrth ei wrando. Fel engraifft, eto o'r hen chwiorydd oedd yn byw yn y lle, rhoddir yr hanes yn canlynol am Sarah Dafydd. Yr oedd yn byw mewn tŷ wrthi ei hunan, gryn bellder o ffordd oddiwrth y pentref, ac oddiwrth y capel. Yr oedd yn amser casglu at y Feibl Gymdeithas, a disgwyliai Sarah Dafydd bob dydd i'r casglyddion alw gyda hi. Modd bynag, ni theimlai y ddau gasglydd awydd i fyned i ofyn dim iddi hi, gan ei bod yn dlawd ac yn unig, ac yn bell oddiwrth foddion gras, ac yr oeddynt yn myned heibio ei thŷ heb alw. Hithau, wedi eu canfod, a waeddai ar eu hol "Wele hai, d'oes bosib' eich bod am basio heibio heb alw yma! Beth sydd gynoch chi'? Casglu yr ydych at rywbeth mi wranta." "Ie, felly yr ydym; ond yr oeddym yn meddwl myned heibio i chwi; yr oedd arnom ofn dyfod ar eich gofyn." "Ofn dyfod ar fy ngofyn i! Debyg gen i nad oeddych ddim am daflu sarhad arnaf. Mi rof inau ryw geiniog