Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gan fod y Beibl ganddo ef, fe'i hanogwyd ef i ddarllen penod. 'Yr hyn a wnaeth,' ebe hen flaenor oedd yn y fintai, 'nes oedd y benod yn newydd i ni gyd.' Anogwyd ef i fyned i weddi. 'Ac os oedd y darllen,' meddai, 'yn rhyfedd, yr oedd y weddi yn rhyfeddach. Nid wyf yn meddwl i mi glywed y fath weddio na chynt nac wedi hyny.'"[1] Ar yr heol yn Ffestiniog y cymerodd hyn le. Yr hanes arall ydyw, "Am daith o'r Waenfawr i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1806," a ysgrifenwyd gan Mr. Evan Richards, Conwy, ac a yınddangosodd yn y Drysorfa, Rhagfyr 1855. "Oddiyma (Penrhyndeudraeth) aethom ymlaen tua Ffestiniog (a'r rhai oedd ar geffylau i Drawsfynydd), dan gerdded yn rhwydd a diflin, gan adroddiad o'r pethau a glywsom, gyda blas a hyfrydwch nid bychan. Cawsom ddwy bregeth hynod lewyrchus ar y lawnt, neu yr heol, yn Ffestiniog, gan y diweddar Barch. Michael Roberts, a'i dad, y Parch. John Roberts, Llangwm. Lletyasom y noson hono gyda hen fam grefyddol, gerllaw Ffestiniog. Wedi swpera, cadwyd dyledswydd, ar ddiwedd yr hyn y torodd allan yn orfoledd tanllyd, yn ganu, canmol, a neidio, nes oeddym yn teimlo megis y nefoedd ar y ddaear. Yr oeddwn braidd yn barnu mai parhau i orfoleddu felly a wnaent hyd y boreu; ond wedi ychydig blethu dwylaw i gysgu, cyfodasom yn foreu ddydd Mawrth; ac wedi cymeryd ein lluniaeth mewn llawenydd, ac addoli, eychwynasom tua Mynydd Migneint, yr hwn oedd ar y pryd wedi ei ordoi â niwl, ac ychydig wlithwlaw yn diferu arnom. Fel yr oeddym yn teithio ymlaen, clywem ryw adsain beraidd, megis yn ehedfan gyda'r awel i'n cyfarfod, yr hyn a fu yn effeithiol i'n cyflymu tuag at oddiweddyd rhyw fintai oedd wedi ein blaenu, nes y daethom o'r diwedd i ddeall y geiriau, ac i allu eu canfod. Y penill ydoedd,—

'Unwaith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain.'


  1. Cofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudal. 818.