Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddi bron yn gwbl y pryd hwn. Elai y bobl mewn oed i ganlyn y pregethwr ar y Sabbath i Drawsfynydd a Maentwrog. Ond yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, cafodd yr ysgol adfywiad, trwy ymweliadau brodyr o'r Ysbytty. Dywedir y byddai chwech neu wyth yn achlysurol yn dyfod yr holl ffordd dros y mynydd hirfaith i ymweled â'r ysgol hon, i'w hyfforddi mewn darllen, egwyddori, a chanu. Gwnaeth y cyfarfod mawr hefyd, a gynhaliwyd yn haf y flwyddyn 1808, ar fynydd Migneint, lawer o les iddi, trwy ei chryfhau a'i lliosogi. Ceir hanes y cyfarfod hwnw yn gyflawn yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol. Y mae llawer o wybodaeth am Ysgol Sabbothol Peniel a'i changhenau i'w gael yn yr Adroddiad a ysgrifenwyd gan Mr. David Owen, Highgate, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â chyfrifon y Dosbarth am 1866.

Yn ystod blynyddoedd llwyddiant mawr Sasiynau y Bala, byddai tyrfaoedd lliosog yn myned ol a blaen trwy Ffestiniog bob haf o Leyn ac Arfon. A sicr ydyw i'r cyfryw dyrfaoedd adael argraff ddaionus ar grefyddwyr yr ardal. Byddai llawer o son am danynt yn yr amser gynt. Nid oes dim yn hanes ein gwlad yn fwy bendithiol na hyny o wybodaeth sydd ar gael am y minteoedd a gyrchent i'r Bala a Llangeitho. A da fuasai pe cawsid ychwaneg o honynt wedi eu croniclo. Y mae hanes dwy o'r teithiau hyn trwy Ffestiniog ar gael. Un ydyw, pan yr oedd y Parch. John Elias o Fôn yn llanc ieuanc, ddwy flynedd cyn iddo ddechreu pregethu, a phan nad oedd eto yn aelod eglwysig, yn myned gyda'r fintai o Leyn am y tro cyntaf i Sasiwn y Bala, yn y flwyddyn 1792. "Yn Ffestiniog, ar eu ffordd tua'r Bala, fe benderfynwyd cael cyfarfod gweddi. Gofynwyd a oedd Beibl gan rywun. Ond nid oedd yr un yn digwydd bod gan neb, o leiaf nid oedd neb yn ateb fod ganddo un. O'r diwedd, dyma ŵr ieuanc, sobr, distaw, dieithr i bawb, a dillad pur lwydaidd am dano, yn dywedyd fod ganddo ef Feibl, ac yn ei dynu allan o'i logell.