Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyhoeddiad, a'r plant a lwyddasant, trwy orchfygu teimladau Mr. Charles. Yr hynafgwr a'r henadur adnabyddus sydd yn awr yn fyw, Mr. Robert Griffith, Melbourne House, a ddywed mai yn yr Hen Gapel y bu ef yn gwrando y bregeth gyntaf erioed. Lewis Morris oedd yno yn pregethu, ar y geiriau, "A'r Arglwydd a agorodd galon Lydia." Yr oedd Mr. Griffith mewn ofn a dychryn annisgrifiadwy yn ystod yr odfa Credai fod Lewis Morris y dyn mwyaf a welsai erioed, a dychymygai fod yr Arglwydd yn berson mawr tebyg iddo, a chan fod y pregethwr yn erfyn yn fynych am i'r Arglwydd ddyfod i agor calon pawb yn y lle, elai aethau trwy ei deimladau ar hyd y cyfarfod, gan ofn gweled y gŵr yn dyfod a chyllell yn ei law i wneuthur yn ol erfyniadau y pregethwr. Yr oedd ei lawenydd yn anrhaethadwy i gael myned allan o'r capel heb i ddim o'r oruchwyliaeth erchyll ddigwydd iddo ef ei hun na neb o'r gwrandawyr. "Ond," ychwanega, "gellwch feddwl fy mod yn bur ieuanc ar y pryd."

Yr oedd yr achos wedi dechreu yma dipyn o amser cyn bod son am Ysgol Sul; y capel wedi ei adeiladu er's pedair blynedd ar ddeg cyn iddi gael ei chynal ynddo yr unwaith. Heblaw hyny, yr oedd y crefyddwyr yn hynod o wrthwynebol iddi. Aeth deng mlynedd ar hugain heibio cyn i'r eglwys hon brofi nemawr o gynorthwy yr ysgol Sul. "Yr hanes cyntaf a gawn am dani mewn unrhyw ffurf yn Ffestiniog ydyw, ymhen isaf Tynant, a phenty Tynewydd, lle yr ymgrynhoai nifer o blant, ac y deuai tri o wyr cyfrifol o'r ardal i'w haddysgu." Credir mai y tri hyn oeddynt, Morgan Prys, o'r Garth, John Hughes, Penstryd, a Morris Pierce, Llety'r Fadog. Yn y pentref felly y cychwynwyd hi, tua'r flwyddyn 1796. Ymhen dwy flynedd, symudwyd hi i'r hen gapel. Bedair blynedd ar hugain yn ol, dywedai un ei fod yn ei chofio heb ddim ond dau grefyddwr yn perthyn iddi—un yn ei dechreu a'r llall yn ei diweddu yn wastad,—sef Morgan Prys a John Hughes. Plant a berthynai