Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr etifeddiaeth; a dywedir hefyd yn ychwanegol, fod cae wedi ei gael yn ymyl y capel, fel y gellid cael porthiant i geffylau y pregethwyr. Adeiladwyd y capel hwn yn 1784. Dyma y cyntaf yn y plwyf. Bychan a diaddurn ydoedd, ac ychydig yn ddiau oedd y draul i'w adeiladu. Yr unig beth y daethpwyd o hyd iddo o berthynas i'r ddyled ydyw, fod swm bychan wedi dyfod o'r casgliad dimau yn yr wythnos a wneid y blynyddoedd hyn trwy yr holl siroedd tuag at adeiladu capelau. Yn Nghymdeithasfa Llansanan, Rhagfyr 1785, "talwyd i Ffestiniog 11p. 19s." Gan nad yw yr arian hyn yn union gyfrif, tybir fod y swm yn cael ei roddi i orphen clirio y ddyled. Hysbysir mai nifer yr aelodau eglwysig yn y plwyf yr amser yr adeiladwyd y capel hwn oedd, o ddeg i bymtheg. Mae y capel er's blynyddau wedi ei droi yn dŷ anedd, yr hwn a elwir hyd heddyw yr Hen Gapel. Gelwid ef gan drigolion yr ardal yn yr oes yr addolid ynddo, "Capel y Rhos," am ei fod wedi ei adeiladu ar ros-dir perthynol i Bwlchowa.

Flynyddau yn ol, byddai yr hen bobl yn hoff o adrodd y pethau a welsant ac a glywsant yn yr Hen Gapel. Er mai pethau cyffredin a adroddid weithiau, eto ceid cipolwg trwy y pethau hyny, ar agwedd y wlad yn yr amser pell yn ol. Un o'r hen chwiorydd a ddywedai iddi fod yn gwrando y Parch. Owen Jones, y Gelli, yn pregethu yno, ac ar ol iddo ddyfod i lawr o'r pulpud, gofynodd i bawb oedd yn bresenol a gymerent benod neu Salm i'w dysgu a'i hadrodd allan; yna rhoddodd gyfran benodol o'r Ysgrythyr i bob un fel tasg i'w ddysgu a'i adrodd yn gyhoeddus. Un arall a ddywedai iddi ddyfod o bellder ffordd ar geffyl i wrando Mr. Charles yn pregethu. Ceisid cyhoeddiad y gŵr parchedig i gadw odfa yn yr ardal lle yr oedd hi yn byw, yr hyn, oherwydd rhyw resymau, a omeddai. Wrth weled nad oedd taerineb y bobl mewn oed yn tycio, casglasant y plant ynghyd i ofyn ei