yn dra chreulawn. Yn hanes bywyd y Parch. John Ellis, Abermaw, adroddir fod ei dad ef wedi ymddwyn yn dra. chwerw tuag ato, oblegid iddo fyned i wrando ar y Methodistiaid yn pregethu, yr hyn sydd yn cyfateb mewn hanesiaeth i'r blynyddoedd a grybwyllir uchod. Yn yr awyr agored y pregethid fynychaf y pryd hwn. Enillwyd amryw o ddisgyblion, yn enwedig o blith y chwiorydd.
Y tŷ cyntaf a roddodd ddrws agored i'r Methodistiaid i bregethu ynddo oedd y Tŷ Uchaf, yr hwn oedd dafarndy. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y tŷ hwn. Ond nid oedd Cyfarfod Misol y sir yr adeg yma ond cyffelyb i un o'r pwyllgorau lleiaf yn awr. Wedi hyn buwyd yn cynal cyfarfod eglwysig rheolaidd, a hyny, cyn belled ag y gellir casglu, ryw ychydig yn flaenorol i'r flwyddyn 1780. Enwir y personau canlynol fel rhai a gafodd y fraint o ffurfio yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Ffestiniog,—Martha, Penstryd; Ann Sion Andrew; Robert, Gwen, ac Ann Roberts, o'r Cymerau ; Sian Ellis, Tŷ Uchaf; Ann ac Owen Roberts, Bwlchiocyn; Ellin Williams, Hafodysbytty. Nid yw y rhestr yn gyflawn, ac nid oes ond ychydig o'u hanes yn y cyfnod hwn ar gael. Yr helyntion nesaf sydd yn wybyddus am danynt ydynt, helyntion adeiladu y capel. Fel hyn yr adroddir am hyny. Y chwiorydd oedd ar y blaen yma, fel mewn llawer man arall, i gychwyn yr achos. Aeth nifer o honynt hwy at eu gilydd i weddio, ac yn union ar ol y cyfarfod gweddi hwnw, agorwyd y drws iddynt gael tir i adeiladu capel arno. Rhoddodd Mr. John Williams, Lledwigan, Môn, le cyfleus ar ffarm Bwlchowa, ar fin yr hen ffordd sydd yn arwain o bentref Ffestiniog i Benmachno. "A'r hyn sydd yn hynod yn yr amgylchiad ydyw, fod y tir wedi ei gael, fel y dywedir, ar y llanerch bu y chwiorydd duwiol ar eu gliniau yn gweddio am dano." Dywed un hysbysydd fod y tir wedi ei gael trwy offerynoliaeth gwraig Hafodysbytty, yr hon oedd chwaer i berchenog