Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn briod i Hugh Owen, a fu yn flaenor yn y Pant, Maethlon, ac Abertrinant. Bu hithau, hefyd, yn gweini gyda gwir ffyddlondeb i weinidogion y gair dros lawer o flynyddoedd yn nhŷ capel Maethlon.

O. Y.--O Gorphwysfa a Nazareth y cychwynodd y symudiad Safonol o addysgu yn yr Ysgol Sul. Ar ol bod ar waith gyda llwyddiant yn nosbarth Penrhyndeudraeth am o dair i bedair blynedd, mabwysiadwyd eu tafleni o Safonau gan Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn 1885, a hwn yn sylweddol a fabwysiadwyd yn 1888 gan Undeb Ysgolion Sul y Methodistiaid Calfinaidd. [Mabwysiadwyd cynllun o Safonau gan Gymanfa Ysgolion dosbarth y Ddwy Afon hefyd oddeutu yr un amser â dosbarth Penrhyndeudraeth.]

LLAN FFESTINIOG (PENIEL)

Yn Llan neu Bentref Ffestiniog y sefydlwyd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn y plwyf. Nid oes sicrwydd hollol am yr amser y cymerodd hyn le. Yr oedd un oddiyma yn perthyn i'r eglwys foreuol a ymgyfarfyddai yn Mhandy-y-ddwyryd, a'r tebygolrwydd ydyw na sefydlwyd yr un eglwys yn y pentref hwn ar wahan i'r lle hwnw, am o leiaf bymtheng mlynedd. Yr hyn y gellir bod yn sicr o hono ydyw, fod pregethu yn Ffestiniog gan y Methodistiaid, gyda rhyw fesur o gysondeb, rhwng 1770 a 1780. Rhai a ddywedant mai Hugh Evans, o'r Sarnau, a bregethodd gyntaf yn y plwyf, ac mai yn Tŷ'nycefn, yn nhŷ Robert Richard, y cymerodd hyny le. Yr oedd William Evans, o'r Fedw Arian, modd bynag, yn un o'r efengylwyr cyntaf a ymwelai â'r ardal. Dioddefodd ef ac eraill lawer o erledigaeth yr amseroedd. Hysbysir am un tro neillduol felly a gymerodd le, yn agos i'r hen dolldŷ, neu orsaf bresenol y Rheilffordd. Crybwyllir yn Nrych yr Amseroedd hefyd am derfysg ac erlid mawr a fu mewn Cyfarfod Misol yn Ffestiniog. Ataliwyd y pregethu, curwyd a baeddwyd rhai