Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd Mri. Hugh Williams (blaenor gynt yn y Pant), a R. Rowland, ysgolfeistr. Ac yn 1887, neillduwyd y personau canlynol, Mri. Ellis Edwards (gynt o Maenen, ger Llanrwst); Griffith Prichard a R. G. Prichard (y ddau wedi bod yn flaenoriaid yn flaenorol yn Maentwrog); W. R. Jones, Chemist; John Evans Humphreys, Adwy-ddu; a John Griffith Jones, High Street. Ac ar hyn o bryd mae yma ddeg o flaenoriaid rheolaidd. Ar y dechreu yr oedd yr eglwys dan ofal y Parch. W. Jones, hyd ei symudiad ef i Liverpool Yn Ionawr, 89, ymgymerodd y Parch. Robert Roberts, gynt o Tyldesley, â bugeiliaeth eglwysi Gorphwysfa a Minffordd. Dywedir fod yr eglwys yn awr yn dra chysurus o ran ei gwedd ysbrydol, addysgol, ac arianol. Yn ystod y saith mlynedd diweddaf, cliriwyd dros 500p. o'r ddyled, a thynwyd y llogau i lawr o 60p. i 30p. Rhif y gwrandawyr yn awr (1890), 312; Ysgol Sul, 240; cymunwyr, 182.

JOHN WILLIAMS, SHOE WAREHOUSE.

Neillduwyd ef yn flaenor gyntaf yn 1862. Parhaodd yn y swydd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 22ain, 1887, yn 64 mlwydd oed. Bu yn flaenor y gân yn Nazareth am 30 mlynedd. Yr oedd yn ŵr tawel, heddychlon, cyson, a ffyddlon yn y cylchoedd y bu yn troi ynddynt.

HANNAH JONES

a fu farw yn 1887, yn 84 mlwydd oed. Pan yn ieuanc bu yn gweini llawer ar yr hen bregethwyr, yn enwedig John Elias, yr hwn a letyai yn ei thŷ. Yr oedd hi yn briod i'r diweddar J. R. Jones, Bangor, ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon, ac yn fam i Mr. W. R. Jones, Chemist, swyddog yn Gorphwysfa yn awr.

CATHERINE OWEN

a fu farw oddeutu yr un adeg â'r chwaer uchod. Yr oedd hi 90