Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad, penderfynwyd adeiladu capel newydd yn yr Adwy-ddu, ar safle gyfleus a manteisiol, a roddwyd gan Mrs. A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw y diweddar David Williams, Ysw., A.S., ar brydles o 999 mlynedd, am ardreth o swllt yn y flwyddyn. Yn Nghyfarfod Misol Mehefin, 1878, rhoddwyd cymeradwyaeth i gynlluniau yr architect, Mr. R. Owen, Liverpool. Gosodwyd y gwaith am 2200p. i Mr. Robert Jones, Adwy-ddu. Cynwysa y capel eisteddleoedd i bum' cant,- ysgoldy o'r tucefn 40 troedfedd wrth 30, class-room a Vestry- oll wedi eu gorphen yn y modd mwyaf cyfleus. Gosodwyd y gareg sylfaen gan A. Osmond Williams, Ysw., Castelldeudraeth, ac ar yr achlysur, cafwyd anerchiadau dyddorol gan y diweddar Mr. Edward Breese, Porthmadog; Mr. Robert Rowland, U.H., Banker; y Parch. Griffith Williams, Talsarnau; a Samuel Holland, Ysw., A.S. Galwyd yr addoldy wrth yr enw Gorphwysfa;' mae yr eglwys ymgynulledig ynddo yn drydedd a heidiodd o'r fam-eglwys yn Nazareth (ac os rhoddir Llanfrothen yn y cyfrif, y mae yn bedwaredd). Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo gan y gweinidog, y Parch. W. Jones, yn awr David Street, Liverpool, oddiar y geiriau, "Nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Yn ddilynol, Mehefin 7-9, 1880, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Edward Matthews, David Lloyd Jones, M.A.; John Hughes, D.D.; a'r diweddar Joseph Thomas, Carno. Yn Nghyfarfod Misol Chwefror yr un flwyddyn, penodwyd y Parchn. D. Roberts, Rhiw, S. Owen, a Mr. William Williams, Tanygrisiau, i gynorthwyo yn sefydliad yr eglwys. Y rhif ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei sefydliad: gwrandawyr, 286; Ysgol Sul, 220; cymunwyr, 144.

Y swyddogion a ddaethant yma o Nazareth oeddynt, Mri. Owen Owen, Castle House, Hugh Hughes, Post Office, John Williams, Shoe Warehouse, a Hugh J. Hughes (yr hwn a symudodd yn fuan i Ffestiniog). Yn gynar ar ol hyn, ethol-