Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1881, dechreuodd Mr. M. E. Morris bregethu; pregethodd ei bregeth gyntaf Mai 11eg. Ymhen amser, aed a'r achos i'r cyfarfod dosbarth, ac oddiyno i'r Cyfarfod Misol, lle y derbyniwyd ef fel pregethwr. Yn hâf y flwyddyn 1875, cydunodd yr eglwys gyda Nazareth i alw gweinidog; a Mehefin 21ain, dewiswyd yn unfrydol y Parch. William Jones (y pryd hwnw o Benmachno). Yn niwedd 1885, torwyd y cysylltiad hwn—"cysylltiad," yn ol tystiolaeth y swyddogion, "a fu yn un o'r rhai hapusaf o'r naill ochr a'r llall," trwy symudiad Mr. Jones i Liverpool. Hydref 18fed, 1888, cymerwyd llais yr eglwys drachefn, pryd y galwyd yn unfrydol y Parch. Robert Roberts, Tyldesley, i fod yn weinidog rhwng yma a Gorphwysfa, a dechreuodd yntau ar ei waith yn nechreu 1889.

Mae yr eglwys erbyn hyn (Mai 1890) yn yr ugeinfed flwyddyn o'i hoedran. Mae y prif arweinwyr oedd ynddi yn y dechreuad oll wedi myned. O'r 69 oedd yn ffurfio yr eglwys ar y cyntaf, nid oes yn aros yn awr ond 26: mae 28 wedi meirw, a'r gweddill wedi symud i leoedd eraill. Rhif y cyflawn aelodau ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 156, y gwrandawyr 256, Ysgol Sul 183.

Y blaenoriaid yn awr,—Mri. William Williams, Griffith Williams, Charles Beardsell, David Davies.

GORPHWYSFA.

Gan fod capel Nazareth yn annigonol gogyfer â chynydd cyflym poblogaeth y Penrhyn, yn enwedig y cwr isaf o'r pentref, yn y blynyddoedd 1870-80, teimlai y brodyr fod yn ddyledswydd arnynt naill ai helaethu y capel, neu ei symud i fan mwy canolog, neu ynte adeiladu yn ngwaelod y pentref, lle yr ydoedd cangen o'r Ysgol Sul yn gweithio yn llwyddianus er 1877, yn yr Ysgoldy Brutanaidd. Wedi dwys ymgynghor-