Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn ei weled ar ol yn y lle, sef yagoldy i gynal yr ysgol, a llyfrgell. Cymerwyd y syniad o gael llyfrgell i fyny ar unwaith. Addawodd y boneddwr 2p. ar y pryd at yr amcan, a rhoddodd yr un swm drachefn. Traddododd y Parch. W. Jones, y gweinidog, ddarlith, oddiwrth yr hon y cafwyd elw da i gychwyn y symudiad. Cafwyd symiau gan foneddwyr eraill, a nifer o lyfrau o bell ac agos. Ac yn ddiweddaf oll, cafwyd 7p. 10s. oddiwrth ewyllys y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, trwy ei gymun-weinyddwyr. Y mae ynddi yn bresenol dros 700 o gyfrolau. Mr. M. E. Morris ydyw y llyfrgellydd o'r dechreu.

TALU DYLED Y CAPEL.

Yn 1887 gwnaed ymdrechion neillduol i dynu i lawr ddyled y capel. Wedi gweled hysbysiad fod y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, wedi gadael arian yn ei ewyllys at dalu dyled capelau, apeliwyd ar unwaith at y cymun-weinyddwyr am ran o honynt, ac yn rhwydd caniatasant y cais. Derbyniwyd ganddynt 25p., yr hyn a'u galluogodd i dalu y flwyddyn hono 119p. 4s. Y ddyled ar ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 364p. 13s. 5c.

JOHN WILLIAMS, YSTENTYR.

Bu farw Tachwedd 27ain, 1889, wedi bod yn flaenor yr eglwys am saith mlynedd, ac wedi bod a llaw bwysig gyda'r achos o'r dechreuad. Efe, ar adeg ei farwolaeth, oedd yr unig un oedd yn aros o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbothol yn y gymydogaeth, gyda'r hon y gweithiai yn egniol hyd y diwedd, er wedi myned yn hen mewn dyddiau. Symudai ymlaen gyda'r oes, a byddai yn selog o blaid pob symudiad newydd, er llwyddiant yr achos. Ni bu neb yn fwy cefnogol i'r weinidogaeth a bugeiliaeth eglwysig. Credai yn sicr fod yr Ysbryd Glan yn arwain yr eglwysi gyda'r mater hwn. Teimlir chwithdod ar ei ol yn hir gan y rhai mwyaf adnabyddus o hono.