Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nibynol ar gasgliad rheolaidd yr Ysgol Sul, y swm o 193p. 19s. 4c. Derbyniwyd yr un flwyddyn yn y Gymdeithas Arianol, o arian dilôg, 605p. 19s.

CADBEN THOMAS JONES, PENYGRAIG.

Bu farw Mawrth 4ydd, 1879, yn 75 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dros 30 mlynedd. Un o'r dynion mwyaf siriol, Cristion cywir, swyddog heddychol. Teimlid colled fawr ar ei ol; byddai yn wastad yn y capel, a hyny yn brydlon, a bu congl y sêt fawr yn ymddangos yn wag yn hir ar ei ol.

DAVID WILLIAMS, CAE-EDNYFED.

Bu farw Awst 29ain, 1882, er galar cyffredinol i'r eglwys. Bu yn gwasanaethu swydd blaenor am bedair blynedd, ac yn drysorydd dyled y capel o'r dechreu. Dangosodd ffyddlondeb mawr gyda'r capel, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf haelionus i dalu ei ddyled. Yr oedd yn anhawdd cael neb mwy diymhongar. Profedigaeth fawr iddo oedd cael ei alw i'r swydd o flaenor, nid am nad oedd yn caru y gwaith, ond oblegid ei feddwl bychan o hono ei hun. Byddai ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig yn felus, ac amlwg ydoedd ei fod yn cael ei addfedu i'r wlad well. Ei ddiwedd oedd dangnefeddus. Tachwedd 13eg, 1882, galwyd yr eglwys yr ail waith i ddewis blaenoriaid; a'r waith hon neillduwyd tri, John Williams, Ystentyr; M. E. Morris; a Griffith Williams, Bryntirion. A Rhagfyr 26ain, 1889, y bu y neillduad diweddaf. pryd y dewiswyd Charles Beardsell, a David Davies, Rhos.

Y LLYFRGELL.

Yn y flwyddyn 1883, sefydlwyd Llyfrgell mewn cysylltiad a'r capel. Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol ei sefydliad oedd, ymweliad boneddwr o Sais â'r gymydogaeth, o'r enw Mr. Spark Evans, o Bristol. Talodd ymweliad â'r Ysgol Sabbothol, ac mewn anerchiad a gafwyd ganddo, dywedai, mai dau beth