Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eglwys, anfonwyd am genhadon o'r Cyfarfod Misol i gymeryd llais yr eglwys mewn galw ychwaneg o swyddogion, ac Ebrill 16, 1878, gwnaed y dewisiad cyntaf yn Minffordd, pryd yr etholwyd David Williams, Cae-Ednyfed, W. Solomon Jones, Caecanol, a W. Williams, Llwyncelyn.

HELAETHU Y CAPEL.

Ymhen chwech neu saith mlynedd ar ol adeiladu y capel yr oedd yn llenwi yn brysur, a dechreuwyd parotoi at ei helaethu. Mewn cyfarfod o'r brodyr, pasiwyd y byddai raid i'r helaethiad gynwys lle i 200 yn ychwaneg i eistedd. Bu cryn lawer o wahanol farnau o barth yr helaethiad, rhai yn dadleu dros y cynllun hwn, eraill yn dadleu dros y cynllun arall. Yn y diwedd, penderfynwyd yn unfrydol tynu ei ben i lawr a'i godi yn uwch, estyn pedair llath yn ei hyd, a rhoi oriel arno. Ac mewn cyfarfod brodyr, wrth weled y fath unfrydedd, cynygiodd John Williams, Ystentyr, fod i'r penill hwnw gael ei ganu, yn y fan a'r lle,—

"Wele, fod brodyr yn byw 'nghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd !"

A chanwyd ef gyda blas ar ganol y cynllunio gyda helaethu y capel. Mr. O. M. Roberts oedd y cynllunydd, a Mr. John Parry Jones, Penrhyn, y contractor. Aeth yr holl draul y waith hon yn 818p. Yn ystod yr amser y buwyd yn adeiladu, yr oedd y gynulleidfa yn addoli mewn pabell a gyfodwyd ar y draul o 1p. 12s. 6c., am yr hon yr oeddis yn ddyledus i dri o'r brodyr yn neillduol, Solomon Owen, Boston Lodge; Griffith Williams, Bryntirion; ac M. E. Morris. Mae y capel yn awr yn un o'r rhai harddaf a mwyaf cyfleus. Cynhaliwyd cyfarfod yr ail-agoriad Hydref 21ain, 1879, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Dr. Parry, Aberystwyth; Dr. Hughes, Liverpool; a J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin. Gwnaethpwyd casgliad neillduol flwyddyn yr adeiladu, yr hwn a gyrhaeddodd, yn an-