Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dedwydd pawb yn meddwl yn dda am dano ef, ac yntau yn meddwl nad oedd neb tebyg yn unman i bobl Minffordd. Daeth y parch oedd iddo i'r golwg yn amlwg foreu ei gladdedigaeth, yn y nifer mawr a ymgasglodd ar awr blygeiniol, i'w hebrwng i'r orsaf, pryd y dygwyd ef i'w hen gartref i'w gladdu.

GRIFFITH SOLOMON JONES.

Symudodd i'r gymydogaeth i fyw yn mis Tachwedd, 1873, a bu yn aelod gwerthfawr iawn o'r eglwys. Lletyai nifer mawr o bregethwyr yn wastad yn ei dŷ. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'r achos y tymor y bu yma. Bu farw Ionawr 8, 1878.

ROBERT WILLIAMS, BRYNTIRION.

Bu farw Mawrth 23, 1878, yn 42 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am ddeuddeng mlynedd, pump o honynt yn Nazareth a saith yn Minffordd. Yr oedd ef yn hynod am ei ffyddlondeb gyda'r gwaith; byddai achos y capel yn cael llawer mwy o'i sylw na'i amgylchiadau ei hun. Nid oedd dim gormod o drafferth ganddo i'w gymeryd mewn trefnu o gwmpas y capel, heb dâl na diolch gan neb ar y ddaear. Yn Rhagfyr 1877 y cynhaliwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y capel, am yr hwn yr oedd ei bryder yn fawr, er ei fod yn wael iawn ei iechyd ar y pryd. Ac er ei fod wedi ei gaethiwo i'w dŷ am y tri mis dilynol, byddai yn trefnu pobpeth perthynol i'r achos. Yr wythnos olaf y bu fyw, trefnai yn ei wely i'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu y Sabbath dilynol. Ond tra yr oedd yr eglwys yn gwneuthur coffa am angau y Gwaredwr, cymerwyd ef i'w weled wyneb yn wyneb, ac i dderbyn cyfarchiad ei Arglwydd, "Da was, da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Ar ol ei farwolaeth ef, gan nad oedd ond un blaenor ar yr