Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymydogaeth. Yr oedd yntau hefyd yn gryf dros wneuthur capel, a hwnw yn gapel da. Achosid yr oediad oherwydd y methid a chydweled am y lle goreu i adeiladu. O'r diwedd, cafwyd tir gan G. A. Huddart, Ysw., Brynkir, ar brydles o 99 mlynedd, gydag ardreth o 5s.

Gadawodd Thomas Roberts, hen arolygwr yr ysgol, trwy ffydd wrth farw, 5p. yn ei ewyllys tuag at adeiladu ysgoldy, yr hyn a fu yn symbyliad i'r ysgol yn y Workhouse ddechreu casglu. Yr oedd ganddynt erbyn amser adeiladu 50p. wedi eu casglu. Costiodd y capel rhwng pobpeth tua 750p. Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad Sul a Llun y Pasg, 1871. Mai 11eg, yr un flwyddyn, bu y Parchn. Robert Parry, a Griffith Williams, dros y Cyfarfod Misol, yma yn sefydlu yr eglwys. Nifer y cyflawn aelodau a symudasant o Nazareth oedd 69. Yn eu plith yr oedd tri o flaenoriaid, Evan Lloyd, Plasnewydd, Cadben Thomas Jones, Penygraig, a Robert Williams, Bryntirion, y ddau gyntaf wedi bod yn y swydd am dros ugain mlynedd, a'r olaf am bump. Yr oedd y lle ar y cyntaf yn daith Sabbath gyda'r Pant—dwy bregeth bob yn ail Sul yn y naill a'r llall. Ond yn 1874, aeth pob un yn daith ar ei ben ei hun. Yn niwedd 1873, cyfarfyddodd yr eglwys â phrofedigaeth fawr, trwy golli, oblegid rhyw amgylchiadau, un o'i phrif arweinwyr, sef Evan Lloyd, Plasnewydd.

Y PARCH, THOMAS WILLIAMS.

Yn y cyfnod hwn ar yr eglwys, gofynwyd i'r Parch. Thomas Williams, yr hwn oedd wedi symud yn ddiweddar i'r Penrhyn o Hwlffordd, i ddilyn ei alwedigaeth fel druggist, i ddyfod i Minffordd i gadw seiat bob wythnos, am yr hyn yr addawyd iddo 3p. yn y flwyddyn. Bu yntau yn hynod o ddiwyd i gyflawni ei ymrwymiad; ni adawai ddim i'w rwystro i ddyfod i'r cyfarfod eglwysig. Ond er gofid i'r eglwys, bu farw yn dra sydyn, Mawrth 24, 1875. Bu y cysylltiad hwn yn hapus a