Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn lle yn uwch i fyny. Ond llesteiriwyd y bwriad hwnw trwy nad oedd rhagolygon am gynydd yn y boblogaeth. Wedi hyn, gwaethygodd masnach, lleihaodd y trigolion, collwyd dynion gweithgar o'r eglwys, a daeth yr achos yn fwy adfeiliedig. Galwyd sylw at y lle nifer mawr o weithiau yn y Cyfarfod Misol y blynyddoedd diweddaf, ac mewn graddau o benbleth, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, tueddid rhai weithiau i roddi yr achos i fyny. Ond y mae yn sicr fod llawer iawn o waith da wedi ei wneuthur yn y Pant, ac er's peth amser, y mae mesur o adfywiad eto ar yr achos. Rhifa y gwrandawyr yn awr 131; yr Ysgol Sul 80; y cymunwyr 76.

MINFFORDD.

Mis Mawrth, 1870, y rhoddwyd cymeradwyaeth gan y Cyfarfod Misol i adeiladu capel yn Minffordd, a'r flwyddyn ganlynol y sefydlwyd eglwys ynddo. Y symudiadau gyda'r Ysgol Sul ydyw hanes crefyddol yr ardal yn flaenorol i'r dyddiad hwn. Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn y parth hwn o'r Penrhyn yn y flwyddyn 1843, mewn tŷ anedd o'r enw Tŷ'n-y-ffordd-fawr. Ymhen tair blynedd, symudwyd hi i'r Workhouse, a bu yn cyfaneddu yno am 25 mlynedd cyn adeiladu y capel. Ymhlith eraill, enwir tri brawd a fuont yn flaenllaw gyda hi yn ei dechreuad yn y lleoedd hyn,—David Angel, Cadben Simeon Roberts, Glandon, Thomas Roberts, Plas-yn-Penrhyn. Ceir hanes yr ysgol am y cyfnod hwn yn gyflawn yn yr Adroddiad argraffedig am y flwyddyn 1877, gan Mr. Griffith Williams, Bryntirion. Bu ymdrafodaeth dros rai blynyddoedd i gael ysgoldy i gynal yr ysgol, a rhoddwyd anogaeth ddwywaith gan y Cyfarfod Misol yn niwedd 1865, i anturio ymlaen gyda hyny. Ond yr oedd Mr. Morgan, Dyffryn, gyda'i graffder a'i ffydd arferol, yn eu hanog i'w wneuthur yn gapel ar unwaith. Am ychydig amser yr adeg yma, bu y Parch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yn preswylio yn y