Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bala, ac un arall, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i fesur y tir, ac i rywun eu cyfarfod wrth ddychwelyd adref, a gofyn iddynt, "Pa le y buoch chwi?" "Ni a fuom yn Ffestiniog," oedd yr ateb, "yn cymeryd lle i'r Methodistiaid i adeiladu capel, digon o faint iddynt am gan' mlynedd." Tra yn gwneuthur y gwaith coed, dywedodd un hen frawd, "Yn siwr, mi gwelwn i chwi yn gwneyd yn ddoeth, pe gwnaech bulpud yn y ffenestr ar gyfer Sasiwn y Bala." Y pryd hyn yr oedd tramwy mawr trwodd o Sir Gaernarfon i'r Wyl i'r Bala. Gwnaed pulpud felly, i'w roddi ar achlysuron neillduol yn y ffenestr, a "phulpud Edward Hughes" y gelwid ef. Rhoddwyd oriel drachefn ar ddau ben y capel yn y flwyddyn 1826.

Y Daith Sabbath yn 1816 oedd, Capel Gwyn, Cwmprysor, Trawsfynydd. Deuent i'r capel hwn o'r holl blwyf. Llawer coffa a wnaed am ychydig ffyddloniaid yn dyfod i lawr yma o Rhiwbryfdir. Dywed hen wraig sydd yn awr yn fyw, y byddai hi pan yn eneth yn dyfod o Glanypwll Bach i'r Capel Gwyn, ac y byddai yn cario ei hesgidiau a'i hosanau o dan ei chesail at Plasmeini, ac yno yn eu gwisgo i fyned i'r capel. Er rhagored crefyddwyr oedd yr hen bobl, perthynai iddynt un diffyg mawr i feithrin crefydd. Am y deugain mlynedd cyntaf, ni chai plant fod yn perthyn i'r cyfarfod eglwysig o gwbl. Cofus genym glywed un yn adrodd ugain mlynedd yn ol, iddo ef gael ei droi allan pan yn chwech oed-yr hyn a gymerodd le yn 1806-am fod yr hen bobl yn tybio ei fod yn fachgen dewr, craff ei sylw ar yr hyn a wneid ac a ddywedid, ac 'ofnent iddo gario dim allan o'r seiat. Ond yn raddol daethant i ddeall eu camgymeriad. "Oddeutu 1814, dechreu- wyd cadw society rydd, wrth yr hyn y meddylid fod rhyddid i aros yn ol am y tro yn unig." Canlyniad gofalu yn y modd hwn am had yr eglwys oedd dechreuad cynydd yr achos. Ymhen pump a chwe' blynedd ar ol myned i'r Capel Gwyn, bu yma gynydd ar yr holl waith. Nodir tri o bethau fu yn