Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

foddion i beri y cynydd,—Diwygiad mawr 1818; sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth y flwyddyn ddilynol; dyfodiad John Ellis, Llanrwst, i'r fro i ddysgu cerddoriaeth y flwyddyn ddilynol i hono. Cynyrchodd y pethau hyn ysbryd cenhadol yn yr eglwys, a ffurfiwyd canghenau ysgolion. Y mae pentref Ffestiniog wedi bod yn llawn llygad yn yr ystyr hwn. Perthyna i'r lle dair cangen ysgol lled bwysig, a thybiwn mai yn awr yw yr adeg oreu i wneyd crybwylliad am danynt.

Y BABELL.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol i breswylwyr Cwm Cynfal yn Cae Iago, yn 1820. Ei sefydlwyr yn benaf oeddynt William a Robert Griffith, Bryn yr Odyn, dau oeddynt wedi eu bedyddio yn dra helaeth gan ysbryd y diwygiad ddwy flynedd yn flaenorol. Bu ddau wedi hyn yn ddiaconiaid gweithgar— Robert yn agos i'r Bala, a William yn Dolyddelen, ac wedi hyny yn Llanfachreth. Symudwyd yr ysgol saith o weithiau, ac ar y seithfed tro daeth i'r Coed bach, lle bu gan yr Annibynwyr eglwys flodeuog gynt. Ac yn 1861, adeiladwyd yr ysgoldy a elwir y Babell, ar y draul o 120p.

TEILIA MAWR.

Sefydlwyd ysgol yma yn mis Mai 1821, ar gyfer ardalwyr Cwm Teigil. Adeiladwyd ysgoldy yn y flwyddyn 1839, yn werth 50p. Er's rhai blynyddau bellach, mae ysgoldy eangach a harddach wedi ei adeiladu, yr hwn a elwir Horeb.

RHYDSARN.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yma yn y Frondirion, tŷ William Williams, yn y flwyddyn 1843. Trwy garedigrwydd David Ll. Lloyd, Ysw., Plasmeini, yn gwerthu tir am bris rhesymol, yn y flwyddyn 1859, adeiladwyd ysgoldy dymunol, mewn lle hynod o brydferth, yn werth agos i 120p., yr hwn sydd yn feddiant i'r Cyfundeb.