Yr hyn sydd i'w adrodd yn mhellach am y Capel Gwyn ydyw, gair am y ffyddloniaid fu yn llafurio ynddo. Y penaf o honynt oedd Edward Robert, "Hen Vicar y Crawcallt." Efe, fel yr hysbyswyd yn y benod ar Pandy-y-ddwyryd, oedd y pregethwr cyntaf a ddechreuodd bregethu yn Ngorllewin Meirionydd. Daeth i fyw i Tynant y Beddau; ac yn ystod ei arosiad yno, bu o wasanaeth mawr i'r achos yn Ffestiniog. Symudodd yn niwedd ei oes i Drawsfynydd, a bu farw yno yn orfoleddus. Gwydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Gwnaeth ymdrech bron angrhedadwy i ddysgu darllen ac i gyraedd gwybodaeth. Gwnaeth lawer hefyd i hyfforddi crefyddwyr a ddaethant at grefydd yn amser y diwygiad, trwy ddysgu iddynt weddio, ac arfer geiriau priodol mewn gweddi. Gyrai lyfr Gurnal ar gylch trwy dai ei gymydogion, er mantais iddynt ei ddarllen. Cychwynodd ddosbarth o grefyddwyr da yn yr ardal hon. Er hyny, yr oedd o dymer hynod o ddreng, a phigog, a chroes. Mewn seiat yn y Capel Gwyn unwaith, dywedai y Parch. R. Jones, y Wern, wrtho, "Edward Robert, yr ydych yn rhy anodd eich trin: yr ydych yr un fath a draenog, yn bigau i gyd." Yn y seiat gyntaf wedi hyny, dywedai Edward Robert, "Yr oedd y gŵr yn ddigon creulon y buasai yn fy mlingo, pe gallasai, ac yr oedd llawer o honoch chwithau yn barod i ddal fy nhraed iddo wneyd hyny." Y blaenoriaid y tymor hwn oeddynt Robert William, Tŷ'nycefn, ac Edward Jones, Ysgol Newydd. Symudodd y ddau i Bethesda, ac i America wedi hyny. Bu David Jones, saer, a Morris Jones, Llety-Fadog, yn flaenoriaid am dymor. John Williams, Hen Gapel, a fu yn arolygwr yr Ysgol Sul am dymor maith, a chadwai rif y presenoldeb a'r llafur ar lechau a ddygai o'r chwarel. Dywed rhai hefyd iddo fod yn gwasanaethu y swydd o flaenor. Oddeutu y pryd hwn yr ymunodd yr hen frawd duwiol, Evan Thomas, y Pandy, â chrefydd, ac y dywedodd un o'r blaenoriaid wrtho, "Wel, Evan bach, y
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/112
Gwedd