Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae genyt waith i gredu bob dydd." Yr oedd yn syn ganddo glywed hyn. "Ond," meddai, "mi welais lawer gwaith wedi hyny ei fod yn wir." Llety y pregethwyr ar y cyntaf oedd Llety Fadog, lle a fu yn llawer o nodded i'r achos; wedi hyny buont yn lletya yn nhŷ David Jones, saer. Oherwydd anghydfod, bu yr eglwys dros amser y pryd hwn heb yr un swyddog ynddi, a byddai Owen Thomas, Fucheswen, yn dyfod i lawr i gadw y cyfarfod eglwysig. Ac wrth ymadael o'r Capel Gwyn, gallasai yr eglwys ddweyd ei bod wedi dyfod trwy "leoedd geirwon, enbyd iawn."

Yn 1839 symudwyd i Peniel, y capel presenol. A dyma y trydydd cyfnod. Dyddiad gweithred y capel hwn ydyw Mai 1838; prydles, 99 mlynedd; ardreth, 5p. 12s. Edrychid arno ar y pryd yn gapel o faintioli anferth, wedi ei adeiladu mewn lle cyfleus, ei olwg yn urddasol, tŷ capel mewn cysylltiad ag ef, ac ysgoldy uwch ei ben i gadw ysgol ddyddiol. Y Methodistiaid oedd noddwyr yr ysgol ddyddiol y blynyddoedd hyn. Bu y capel eang hwn am ugain mlynedd heb oriel arno, a'r pulpud wedi ei grogi i fyny, o leiaf, haner y ffordd i'r ceiling, fel pe buasai wedi ei roddi yno yn bwrpasol i ddysgu y pregethwr i waeddi, er mwyn i'r bobl ar hyd y gwaelod ei glywed. Ond pan ddaeth diwygiad ar grefydd (1859, 1860), daeth diwygiad hefyd i ostwng pulpudau capelau y wlad, a Ffestiniog yn eu plith. Yr oedd y brodyr yn meddu ffydd aruthrol i anturio adeiladu adeilad mor fawr, a daroganid mai suddo a wnaent hwy a'r achos. Ac o dan faich gorlethol y buont hyd 1845, pryd y rhoddodd y Cyfarfod Misol ryw gymaint o gynorthwy i gyfarfod eu hymdrech hwy eu hunain. Ar ddymuniad y Cyfarfod Misol, hefyd, rhoddodd Bethesda iddynt 40p. y pryd hwn i helpu talu dyled y capel. Gwelir oddiwrth y llyfrau, modd bynag, nad oedd ond 350p. o'r ddyled yn aros yn 1850. Yn y flwyddyn 1879, adgyweiriwyd y capel yn drwyadl, a gwnaed ef yn gysurus a phryd-