Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ferth o'r tufewn. Aeth y draul yn 1000p. Pregethwyd ar ei ail-agoriad gan y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno. Y mae hefyd yn awr yn rhydd-feddiant i'r Cyfundeb. Y ddyled ar ddiwedd 1889 oedd 639p. 15s. 7c.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa Flynyddol y sir yn y capel hwn, Hydref 2il a'r 3ydd, 1844, yr hon a gofiwyd ac a gofir gan ganoedd, ar gyfrif mai ynddi hi y cafodd y Parch. John Jones, Talsarn, un o'r odfeuon hynotaf, os nad yr hynotaf oll yn ei oes. Yr oedd y Gymdeithasfa hono, y tro hwnw, yn cymeryd lle y Gymdeithasfa a gynhelid yn flynyddol yn Nolgellau. Gwnaethid parotoadau i bregethu allan ar y maes, ond trodd y tywydd yn anffafriol, fel y bu raid pregethu yn y capeli. Yn nghapel Peniel, am ddeg o'r gloch, pregethodd Mr. Daniel Jones, Llanllechid, yn gyntaf, a Mr. John Jones ar ei ol. "Yr oedd y capel eang wedi ei orlenwi â gwrandawyr, pob congl o hono dan sang." Geiriau testyn Mr. John Jones oeddynt, "Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hyny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd." "Yr oeddwn," meddai y Parch. Robert Parry, "ar risiau y pulpud, ac mewn lle manteisiol i ganfod y cwbl; ni welais y fath olygfa yn fy holl fywyd, ac nid wyf yn gallu disgwyl ei chyffelyb byth. Pan y darluniai Drugaredd yn dywedyd, 'y cai y nefoedd fod yn wag o'r Mab, cyn y cai dim angenrheidiol er sicrhau iachawdwriaeth i bechadur fod heb ei gwblhau,' disgynodd rhywbeth ar y gynulleidfa nad ydyw ond ofer ceisio ei ddesgrifio, oedd, yn wir, yn annisgrifiadwy. Rhoddwyd un lef gyffredinol gan yr holl dorf, fel pe buasai wedi ei tharo gan fellten; a chafodd pawb ryddhad i'w teimladau-rhai trwy waeddi, llawer trwy wylo, a rhai trwy wylo a gorfoleddu. Ac ni therfynodd effeithiau y bregeth yn y capel, ond bu yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd. Bu rhai yn dyfod i'r eglwysi, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith, wedi eu deffro yn ddifrifol am y tro cyntaf erioed,