Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy y bregeth hon."[1] Parhau i gynyddu a chryfhau wnaeth yr achos yn Mhentref Ffestiniog ar ol adeiladu capel Peniel, ac ar ol y Gymdeithasfa hon.

Bu amryw o bregethwyr a gweinidogion yn dal cysylltiadi â'r eglwys hon, rhai a ddaethant yma i drigianu, ac eraill a ddechreuasant ar eu gweinidogaeth. Hugh Edwards, yr hwn. a aeth i'r America, Ebrill 1841; Edward Rees, aeth yntau hefyd i'r America, Ebrill 1842; Robert Thomas a fu yn byw yn nhŷ y capel yma, cyn ei fynediad i Lidiardau; Robert Lewis, wedi hyny o Gaernarfon, a fu yma am dymor yn cadw ysgol ddyddiol. Yn Peniel y dechreuodd y Parch. James Donne, Llangefni, bregethu. Cyflwynwyd ef gan y Cyfarfod Misol i'w dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, Mai 1, 1843. Yma y magwyd y Parch. E. Stephen, Tanymarian. Yma hefyd y cychwynodd y Parch. James Jarrett, yn awr o Nefyn. Yn Nghyfarfod Misol Awst 3, 1848, "caniatawyd iddo gael arfer ei ddawn i bregethu, a myned hefyd i Athrofa y Bala." Y Parch. R. J. Williams, Aberllyfeni, ei flwyddyn brawf yn diweddu Mai 1878; Parch. O. Lloyd Owen, Cymdy, ei flwyddyn brawf yn dechreu Mai 1880; Mr. Robert Morris, yn dechreu ar ei flwyddyn brawf Gorphenaf 1883.

Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr 1840, "Ymddiddanwyd â David Davies, David Evans, ac Humphrey Williams, y tri o Ffestiniog, gyda golwg arnynt i flaenori." Dyma y tri y gosodwyd y gwaith ar eu hysgwyddau ar ol yr ymrysonau a gymerasant le yn y Capel Gwyn, a'r cyfwng mewn canlyniad y bu yr eglwys heb flaenoriaid. Dechreuodd yr olaf yn fuan bregethu. David Davies, Pantlluryd.—Bu ef yn flaenor ffyddlon a gweithgar am hir amser mewn cyfwng pwysig ar yr eglwys. Efe oedd un o sefydlwyr ysgol Rhydsarn. "Dywedir na chollodd ond dau Sabbath yn ysbaid y deng mlynedd

  1. Cofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, tudal. 632.