Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwarelau Ffestiniog. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, yn 1830, pan yn 20 oed. Dewiswyd ef yn flaenor yn Peniel yn 1840. Awst 1843, anfonwyd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Morris Lloyd, Cefngellewin; a W. Ellis, Maentwrog, dros y Cyfarfod Misol, i Ffestiniog i gymeryd llais yr eglwys o berthynas iddo gael dechreu pregethu ; ac yn Medi yr un flwyddyn, "caniatawyd i Humphrey Williams ddechreu llefaru yn ol y plan a basiwyd yn Nghymdeithasfa Pwllheli." Yn Nhymdeithasfa Amlwch, 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith yr efengyl. Bu farw mewn tangnefedd, Rhagfyr 6ed, 1883, yn 73 mlwydd oed. Aeth trwy holl gylchoedd ei fywyd gyda llawer o ffyddlondeb a dewrder. Cyn ei ddewis yn flaenor, bu yn arolygwr gweithgar yn yr Ysgol Sabbothol. Felly dringodd yn rheolaidd ar hyd pob gris o ddefnyddioldeb. Meddai ar fesur helaeth o athrylith; ac yn ol y manteision a gafodd, gweithiodd yn dda ymhob cylch y bu yn troi ynddo. Nis gallwn roddi gwell darluniad o hono na thrwy ddyfynu ychydig o'r sylwadau a wnaed ar ei gymeriad a'i waith, y rhai a ymddangosasant yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw. Yr oedd hynodion yn perthyn iddo, dywediadau hynod, brawddegau hynod, a chymhariaethau hynod. Gyda'r cwbl, yr oedd yn was ffyddlon i Iesu Grist, ac fel y cyfryw, mae ei goffadwriaeth yn haeddu parch. Un o'r hen gymeriadau ydoedd, o blith yr hen bobl, wedi ei wneuthur y peth oedd trwy oruchwyliaeth natur a gras. Delw yr hen bobl oedd arno, a delw y wlad y magwyd ef ynddi. Fel engraifft o'i ymadroddion digrifol mewn cymdeithas, dyma un:—Yr oedd yn marchogaeth ar geffyl benthyg unwaith, ymhell oddicartref. Nid oedd dim myn'd yn yr anifail, ni chlywai lais y marchogwr, ac ni theimlai oddiwrth y pastwn yn ei law. Gwaeddai yntau ar ei gydymaith, anifail yr hwn oedd yn cario y blaen arno,—"Nid yw yn bosibl marchogaeth yr anifail hwn yn ysbryd Mab y dyn."