Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagoriaeth neillduol ynddo oedd ei barodrwydd i wasanaethu ei gyd-ddynion yn mhob peth y gallai; i gynghori yn erbyn drygau yr oes; i geisio y rhai tarfedig; i bregethu yn nheithiau pell a mynyddig Sir Feirionydd. Yr elfen fwyaf amlwg ynddo fel pregethwr oedd yr elfen ymosodol. Rhyfelwr oedd, ymosodwr ar bob drwg, yn enwedig ar yr Un drwg. Ymosodai yn ddiarbed bron ymhob pregeth ar y "black prince." Tynai ei gymhariaethau o dair ffynhonell,—y Beibl, Gurnal, a'r Chwarelau. Cynyrchai fywyd ar unwaith yn y Cyfarfodydd Misol pan y codai i fyny i siarad. Anaml y ceid neb a allasai fel efe, trwy ei ddamhegion a'i ffraeth-eiriau, roddi hergwd i'r hyn fyddai dan sylw yn ei ol neu yn ei flaen. Yr oedd mewn dau beth yn fwy na llawer, sef fel dirwestwr ac fel gweddiwr. Da y gwyddai ei gydoeswyr am ei ymdrechion dihafal gyda dirwest ac yn erbyn meddwdod, ac am ei weddiau gafaelgar ac effeithiol.

"Mor nodweddiadol o hono ef ei hun oedd ei eiriau diweddaf. Cefais lythyr boreu heddyw oddiwrth y Gwr, a'i gynwys oedd, Mewn ing y byddaf fi gyda thi.' ' Golygfa fendigedig ar ddydd ei angladd oedd gweled tyrfa mor fawr— o gylch 2000—yn talu parch i'w goffadwriaeth, y bobl y bu trwy ei oes yn eu dysgu a'u hyfforddi, yn canu emynau mor rymus, ar hyd y ffordd o'r capel i'r fynwent, a swyddogion yr eglwys y bu yn cyd-lafurio gyda hwy, o dan bedair congl yr elor yn ei gario i lan y bedd."

Y PARCH. ROBERT PARRY.

Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, wedi ei eni mewn lle o'r enw Felingerig. Daeth i Ffestiniog pan o gylch 20 oed, i weithio fel chwarelwr. Yr oedd yn ddyn ieuanc syml a diargyhoedd, a rhagorai ar y cyffredin trwy ei awydd i brynu a darllen llyfrau, a hynodid ef fel dadleuwr selog dros yr athrawiaeth Galfinaidd. Ymhen o gylch tair blynedd wedi iddo symud