Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma, ymunodd â chrefydd yn eglwys y Methodistiaid yn Nhanygrisiau. Ymaflodd ar unwaith yn nyledswyddau crefydd: bu yn ffyddlon gyda'r cyfarfodydd egwyddori; byddai eneiniad ar ei weddiau ar ei doriad cyntaf allan. "Daliwch chwi sylw," ebe un brawd, wrth fyned adref o gyfarfod gweddi, mae defnydd pregethwr yn y dyn ieuanc yna sydd newydd ddyfod atom." A dywedai ef ei hun wedi hyny ei fod wedi cyfansoddi rhai pregethau cyn bod yn aelod eglwysig. Ymhen o gylch blwyddyn ar ol ymuno â'r eglwys, aeth i Athrofa y Bala; ond nis gallodd aros yno ond am dymor byr. Dychwelodd yn ol drachefn at ei orchwyl yn y chwarel. Y pryd hwn darfu i'r blaenor duwiol, Mr. Jacob Jones, Bala, anfon llythyr at swyddogion eglwys Tanygrisiau, yn eu hanog i gymell y gŵr ieuanc fu yn y Bala i ddechreu pregethu. Ac felly y gwnaethant. Bu yn gweithio yn y chwarel am gryn amser ar ol dechreu pregethu. Aeth i'r Athrofa eilwaith, a bu yno am o gylch tair blynedd. Ymdrechodd yn ganmoladwy iawn yr adeg yma i gael addysg athrofaol i'w gymhwyso i fod yn ddefnyddiol, ac aeth trwy galedi mawr. Ar ol bod yn y Bala am yr amser arferol, gwnaeth ei feddwl i fyny, er mwyn cael moddion cynhaliaeth, i fyned i gadw ysgol ddyddiol; a thuag at gyfaddasu ei hun at y gwaith hwnw, aeth i'r Borough Road, Llundain. Ymgymerodd â gofal yr Ysgol Frutanaidd yn Ffestiniog, a bu yr ysgol yn llwyddianus o dan ei ofal am o gylch wyth mlynedd. Ymsefydlodd yma bellach, trwy briodi Miss Catherine Thomas, Tryfal. Er mwyn bod yn fwy rhydd i ddilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol a'r Cyfarfodydd Misol, rhoddodd y swydd o ysgolfeistr i fyny, ac ymgymerodd â masnach, er mwyn, fel y dywedai, ceisio gwneyd ychydig i'w gynorthwyo i fyw i bregethu. Bu ei fynediad i Ffestiniog o fendith fawr i achos y Methodistiaid yn y lle. Gwasanaethodd fel bugail i eglwys liosog Peniel am amser maith; meddai ar gynhwysder neillduol i gadw cyfarfodydd eglwysig, ac i