Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyfforddi y bobl ieuainc. Yr oedd ei ddawn ef, a dawn y Parch. Humphrey Williams, pob un yn ei ffordd ei hun, yn peri i'r cyfarfodydd eglwysig fod yn dra adeiladol ac effeithiol. Ei gyfaill, y Parch. G. Williams, Talsarnau, yr hwn a ysgrifenodd gofiant byr iddo i'r Drysorfa, Tachwedd 1881, a ddywed ei fod yn meddu anfantais i fod yn boblogaidd, am nad oedd yn feddianol ar lais soniarus, ond y byddai y dosbarth mwyaf deallus o'r gwrandawyr yn ei werthfawrogi. Ac mewn cysylltiad ag ef y gwnaeth G. W. y sylw canlynol, "Clywsom am un wraig yn myned heibio i gapel pan oedd y gwasanaeth newydd ddechreu; a phan y gofynwyd iddi a oedd hi ddim yn myned i wrando y gŵr dieithr, dywedai, Mae arnaf eisiau myned i'r shop yn gyntaf, ond deuaf yn ol erbyn y bydd y pregethwr yn dechreu gwaeddi.'" Y lleoedd y rhagorai Mr. Parry ynddynt oeddynt, y cyfarfodydd eglwysig, y cyfarfodydd ysgolion, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu am dymor maith yn gofalu yn dra llwyddianus am gyfarfodydd ysgolion y dosbarth. Byddai yn fynych yn cael ei benodi i wneuthur cymwynasau dros y Cyfarfod Misol, ac nid oedd neb yn fwy medrus at achosion felly. Yr oedd yn ŵr o argraffiadau crefyddol dyfnion trwy ei oes, a chadwodd ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd, a bu yn ffyddlon yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd y diwedd. Bu farw ar y 7fed o Ionawr, 1880, yn nhŷ ei fab, Dr. Parry, Harlech y pryd hwnw, a chymerodd ei angladd le yn Mhentref Ffestiniog, pan y daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch iddo.

BETHESDA.

Hon ydyw yr eglwys gyntaf a ffurfiwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Mlaenau Ffestiniog, a hi ydyw mam yr holl eglwysi eraill sydd yn y fro yn awr. Sefydlwyd hi, cyn belled ag y gellir cyraedd sicrwydd, yn y flwyddyn 1819. Un capel oedd yn y plwyf yn flaenorol i hyny, sef y Capel Gwyn yn y