Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llan. Yn yr amser gynt, ystyrid y Blaenau a'r Llan yn un ardal, i bob pwrpas crefyddol a gwladol. Ac mewn amser cymhariaethol ddiweddar, ni ystyrid myned i lawr o'r Blaenau i'r Llan ond mater o angenrheidrwydd dyddiol, a chan lawer edrychid ar hyn yn fraint. I lawr i'r Hen Gapel, a'r Capel Gwyn ar ol hyny, yr elai trigolion y Blaenau i addoli, dros ysbaid o agos i ddeugain mlynedd. Nid yw yn annhebyg nad oedd oddeutu haner y rhai a wnai i fyny gynulleidfa y Llan yn dyfod o'r Blaenau. I fyny y preswyliai un o'r ddau flaenor, a thros rai blynyddau yr unig flaenor yn y plwyf. Y mae ychydig bersonau eto yn fyw, yn cofio Robert Morris a Betty Rhisiart, Glanypwll, yn dyfod i lawr i'r Llan i bob moddion o ras, yn marchogaeth ar ferlod, a chynffonau llaes hyd y llawr.

Trwy gynal Ysgol Sabbothol y dechreuwyd yr achos yn sefydlog yn y Blaenau. Dywedir mai yn y flwyddyn 1810 y sefydlwyd hi gyntaf, yn Penybryn, ac mai William Evans, Cwmbowydd, a John Hughes, Bertheos, Dolyddelen, fuont yr offerynau i'w sefydlu. Symudwyd hi oddiyma i'r Tycoch, ac oddiyno i Neuadd-ddu, lle y bu hyd nes yr adeiladwyd capel Bethesda. Yn y flwyddyn 1818, ymunodd y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda'u gilydd i gadw ysgol. Cynhelid hi yn Tanymanod a'r ysgubor oedd yn agos i'r tŷ, a rhifai tua 120. Ond cyfododd anghydwelediad rhwng y ddau enwad yn lled. fuan, ac yna ymranasant. Nid oedd yr un crefyddwr yn rhoddi ei bresenoldeb yn yr ysgol ar y cychwyn, ond tua'r adeg y bu y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn cynal yr ysgol gyda'u gilydd, ymunodd llawer â chrefydd trwy y diwygiad mawr oedd yn y wlad, ac o hyny allan yr oedd yn llawer haws ei chario ymlaen. Yn 1819, y sefydlwyd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Ffestiniog, a bu hyny drachefn yn foddion symbyliad i'r ysgol hon fel i holl ysgolion y cylch. Gorphenaf 17eg, 1825, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion cyntaf Blaenau Ffestiniog yn Neuadd-ddu.