Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hysbysir mai y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oedd y gofalwr neu holwyddorwr. Rhifai yr ysgol 80; yr oedd dwy ysgol arall, sef Teilia Mawr a Thanygrisiau, wedi d'od ynghyd i'r cynulliad, a chan ei bod yn Sabbath teg o haf, cynhaliwyd y cyfarfod yn y tŷ a'r cwrt o'i flaen. Erbyn yr ail Gyfarfod Ysgol, yr oedd capel Bethesda wedi ei adeiladu, a chynhaliwyd ef ynddo ar y trydydd Sabbath yn Medi 1826. Cymerwyd rhan yn hwn gan y Parchn Richard Jones, Wern; Richard Jones, Trawsfynydd; a John Jones, Tremadog. Dygwyd cynygiad dipyn yn ddieithr i'r cyfarfod hwn gan W. Williams (Gwilym Peris), gŵr oedd yn flaenllaw gydag ysgol fechan Monachlog, Rhiwbryfdir, sef y priodoldeb o ddysgu gramadeg yn yr Ysgol Sabbothol. "Yr oedd y Parch. Richard Jones, Wern, yn bleidiol i hyn, ond cadw mewn cylch gweddeidd-dra. Ond yr oedd John Jones yn gryf yn ei erbyn, gan ddweyd fod hyn yn doriad uniongyrchol ar y Sabbath, a rhag bod neb yn cael ei dramgwyddo, rhoddwyd heibio ei ddysgu." Rhif yr ysgol hon adeg y cyfarfod hwn oedd 136. Ceir ychwaneg am ysgol Bethesda mewn cysylltiad ag Adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1869, gan Richard Owen, Neuadd ddu.

Gellir, gyda phriodoldeb, ofyn y cwestiwn, gan fod achos wedi ei sefydlu, a chapel wedi ei adeiladu yn y Llan, er's deugain mlynedd, paham y buwyd cyhyd heb wneyd hyny yn y Blaenau? Yn gyntaf oll, rhaid cofio mai teneu iawn oedd poblogaeth yr ardal y pryd hyny. Rhoddir 40 fel amcan gyfrif o'r rhai a elent i lawr i'r Llan i addoli o holl gylchoedd y Blaenau? Araf, fel rheol, fyddai yr hen bobl bob amser i gychwyn achos newydd. Tybiwn fod y rheswm dros yr hwyrfrydigrwydd hwn i'w gael i fesur o ddau gyfeiriad,— diffyg sel yn y Blaenau am sefydlu achos, a gormod cyndynrwydd yn y brodyr i lawr i adael i'r cyfeillion i fyny ymadael oddiwrthynt hwy. Y mae tystiolaeth bendant, modd bynag, ar gael ddarfod i'r eglwys yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn,