Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nid yn unig ddangos hwyrfrydigrwydd, ond gwrthwynebiad hollol i'r cyfeillion sefydlu achos yn y Blaenau. Fel hyn yr adroddir yr hanes,—"Yr oedd William Evans, Cwmbowydd, yn awyddus i gael pregethu cyson i'w dŷ, ac addawodd roddi bwyd a llety i'r pregethwyr ei hunan, os byddai i ychydig gyfeillion eraill eu cydnabod am eu llafur. Gwnaed hyn yn hysbys i'r blaenor (Owen Robert, Neuadd-ddu) yr unig flaenor yn y gymydogaeth y pryd hyny. Aeth y blaenor a'r achos yn galonog i'w roddi gerbron yr eglwys yn y pentref, gan feddwl yn sicr y llwyddai gyda'r cais. Ond Edward Robert, y pregethwr, a'i gwrthwynebai, gan ddweyd yn ffyrnig yn ei wyneb, Beth ydi'r diogi sydd arnoch chwi tua'r Blaenau acw, Owen? Taw, gynted ag y medri, ti wyddost ein bod yn methu myn'd a'r achos yn ei flaen fel yr ydym.' "[1] Digalonodd hyn y gŵr oedd wedi dangos parodrwydd i gynal yr achos; ac oherwydd rhyw gysylltiadau, llwyddodd i gael brodyr o enwad arall i ddyfod dros y mynydd o Ddolyddelen i'w dŷ i bregethu. A dyma y modd y dechreuodd yr Annibynwyr ymsefydlu yn yr ardal. Adroddwyd yr hanes uchod laweroedd o weithiau gan un oedd ei hun yn cofio yr holl amgylchiadau. Rhoddir adroddiad arall am y modd y dechreuodd yr Annibynwyr achos yn yr ardal. Ond nid yw yr adroddiad hwnw yn gwahaniaethu llawer, nac yn yr amser, nac yn y manylion. Modd bynag, ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn y flwyddyn 1817, a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd capel Bethania, ac yr oedd hyn wyth mlynedd cyn bod yr un capel arall yn y Blaenau gan unrhyw enwad. Mae y brodyr teilwng yr Annibynwyr erbyn hyn wedi lledu eu canghenau dros yr holl blwyf.

Dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Neuadd-ddu yn nghanol y flwyddyn 1819, ac oddiwrth y ffaith eu bod yn talu

  1. Traethodydd, 1868, tudal. 45