Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r pregethwyr, tybir mai y pryd hwn y darfu iddynt ymffurfio yn eglwys ar wahan i Ffestiniog. Cawsant ddeuddeg o bregethau y mis cyntaf, a thalwyd 14s. 6c. am y cyfan. Fel hyn y mae llyfr taliadau yr eglwys i'r pregethwyr yn dechreu:—

s. c.
"Mehefin 27, 1819 Robert Griffith (Dolgellau) 1. 0.
— 4 Hugh Jones 2. 0.
— 9 John Peters 1. 6.
— 10 Richard Roberts 2. 0.
— 11 Eto 1. 0.
— 12 Owen Williams 1. 0.
— 17 Mr. Lloyd (Bala) 1. 0.
— 17 John David 1. 0.
— 18 Mr. Lloyd 1. 0.
— 18 John David 1. 0.
— 23 William Roberts 1. 0.
— 25 David Rowland 1. 0.
— 29 John Peters 1. 0.

Yn flaenorol i hyn, yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn, ymddengys oddiwrth yr hanesyn canlynol mai chwe' cheiniog fyddai tâl y pregethwr. Byddai y Parch. John Jones, o Edeyrn, yn dyfod yno i bregethu yn fynych, ac yr oedd ef ac Owen Rhobert y blaenor yn wastad ar delerau da. Arferid yn y parthau hyn, pan y byddai person wedi cael cam oddiar law person arall, ddywedyd o'r person fyddai wedi cael y cam, "Mi a dalaf i ti yr hen chwech." Un tro pan y rhoddid rhywbeth yn llaw John Jones, syrthiodd i'r llawr, a chafwyd golwg arno, ac nid oedd ond dernyn bychan gwyn ei liw. "Nid wyt ti a fi ddim yn ffrindia, Owen," meddai John Jones. Ydym yn siwr," John Jones bach," oedd yr ateb, "pa beth a welsoch yn amgenach?" "Dy wel'd yr ydwyf," ebe John