Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y capel, 10s." Ymhen un mlynedd ar hugain ar ol adeiladu y tro cyntaf, bu raid helaethu ac ailadeiladu y capel, ac yr oedd hyn yn waith anhawdd, canys yr oedd deddf wedi ei phasio yn Nghymdeithasfa y Gogledd ar y pryd, yn gwahardd i bob gweinidog a phregethwr i bregethu yn yr un capel a adeiledid neu a helaethid o'r newydd, os na byddai yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Pa beth oedd i'w wneyd? Ymwregysu ac ymwroli. Gorphenaf 5ed, 1847, daeth y Parch. John Parry, wedi hyny Dr. Parry, o'r Bala, yma i areithio a chymell i haelioni, ac i gasglu addewidion at y capel newydd. Ymhen y flwyddyn, yr oedd cyfanswm y derbyniadau, rhwng y casgliad, arian yr eisteddleoedd, a'r hyn a dderbyniwyd am ddefnyddiau yr hen gapel, yn 386p. 2s. 6c. Yr holl draul yn 385p. 3s. 11c. Felly talwyd yr holl ddyled cyn ei agor, er mai cael a chael ydoedd. Onid hwn oedd y capel cyntaf i'w agor yn ddiddyled o dan y ddeddf hon? Dydd yr agoriad oedd Medi 10fed, 1848. Pregethwyd gan y Parchn. R. Humphreys; David Lewis, Rhuthyn; John Hughes, Pontrobert; a Robert Roberts. Rhif yr eglwys yr adeg yma, 151. Cofrestrwyd y capel i briodi ynddo yn 1853. Hwn yw yr hen gapel sydd ar ei draed yn bresenol. Y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, oedd y cynllunydd.

Yn 1856, prynwyd y gladdfa, a'r tir yr oedd yr adeiladau yn sefyll arno am y swm o 150p. Y cyfanswm rhwng talu am y Weithred a chau o amgylch y tir yn 210p. Talwyd y swm hwn trwy gasglu yn fisol, arian yr eisteddleoedd, a'r tâl a godid am le beddau.

Yn nechreu 1864, agorwyd y Tabernacl. Rhifai yr eglwys yn Bethesda cyn yr ymraniad hwn 332; ymadawodd i'r Tabernacl, 170; felly yr oedd yn aros yma 162. Casglwyd yn Bethesda, a chan gyfeillion uwchlaw 500p. erbyn dydd agoriad y Tabernacl, a chyflwynasant y swm i'r frawdoliaeth ar eu hymadawiad, ynghyd ag o 1300p. i 1500p., sef yr holl