Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

swm oedd yn y Gymdeithas Arianol ar y pryd, fel nad oedd yn rhaid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd yn aros ar y capel. Adeiladwyd tŷ Bronygraig i'r gweinidog yn 1864,- y ddwy eglwys i dalu haner y draul bob un. Talodd Bethesda rhwng ei rhan o draul yr adeilad a'r ychwanegiad a wnaed ato, 245p. 10s. 6c.

Yr anturiaeth fawr nesaf oedd adeiladu y capel hardd presenol, yr hwn a agorwyd y Pasg 1870. Cynllunydd hwn oedd Mr. Richard Owen, Liverpool; adeiladydd Mr. J. Rhydwen Jones, Rhyl. Heblaw y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r blaenoriaid, ffurfiwyd pwyllgor adeiladu i ddwyn y gwaith o amgylch, a gosodwyd Mr. Owen Jones, Fronwen, yn ysgrifenydd, a Mr. Thomas Edwards yn drysorydd. Gwnaeth y pwyllgor ynghyd a'r eglwys oll waith ardderchog. Yr oedd yr holl draul yn 2447p. Os. 11c., ac ar ddiwedd y flwyddyn 1875, cyhoeddwyd fod yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Adeiladwyd ysgoldy Congl-y-Wal, ac agorwyd ef Mai 29, 1880. Y draul, 487p. 8s. 10c. Yn ddiweddarach, adeiladwyd tŷ ar dir yr hen gapel, a phrynwyd darn o dir at y capel newydd. Gwelir yr holl dreuliadau yn y daflen isod:—


Taflen o'r Adeiladau o 1826 hyd 1890.
Blwyddyn £ s. c
Y capel cyntaf 1826 ... ... 274 10 4
Oriel (gallery) 1833 ... ... 57 13 11
Tŷ y capel 1838 ... ... 250 0 0
Ailadeiladu y capell 1848 ... ... 386 2 6
Y Gladdfa, &c, 1856 ... ... 210 0 0
At y Tabernacl 1863 ... ... 500 0 0
Tŷ i'r Gweinidog " ... ... 206 4 3
Darn ynddo 1868 ... ... 59 5 4
Y Capel Newydd, 1869 ... ... 2447 0 11
Ysgoldy Conglywal 1880 ... ... 487 8 10
Tŷ Newydd (contract) 1882 ... ... 281 10 0
Repairio y capel a'r tai " ... ... 142 9 9
Darn o dir ychwanegol " ... ... 31 17 6
... ... ... ... ... ... ...
Cyfanswm ... ... ... 5334 4 4