Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywed ein hysbysydd, "Y mae canoedd ar ganoedd wedi eu talu yn ychwaneg na'r swm uchod."

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Bethesda oedd y cyntaf o gapelau y Methodistiaid yn Ffestiniog i gychwyn Cymdeithas Arianol. Sefydlwyd hi noswaith Chwefror 20, 1854. Rhif yr aelodau y noson gyntaf oedd 36. Yr arian a dderbyniwyd 22p. 5s. Yr ysgrifenydd cyntaf oedd Mr. Robert Owen, British School. Ar ei ol ef, bu Mri. Thomas Williams, Croesor; Richard Owen, Neuadd-ddu; G. G. Davies, Rhiw; ac Evan Davies, Glanaber, yn ysgrifenyddion. Y trysorydd cyntaf oedd Mr. Morris Roberts, Brynhyfryd, Congl- y-wal. Bu yn ei swydd am bymtheng mlynedd-hyd ei farwolaeth, Mawrth 11, 1869, ac ni bu trysorydd erioed yn fwy ffyddlon, na'r un dyn y bu gan yr ardal fwy o ymddiried ynddo. Gwnaeth wasanaeth mawr i'r Gymdeithas, a bu ei briod yn llawer o help iddo gyda'r gorchwyl hwn. Ei olynydd teilwng fel trysorydd am yr ugain mlynedd diweddaf ydyw Mr. Thomas Edwards, Bryneifion.

Bu y Gymdeithas yn fendith fawr i lawer o bobl ieuainc a phenau teuluoedd, i "gadw eu hafraid at eu rhaid." Y mae hefyd wedi bod yn help mawr i gynal yr achos yn Bethesda. Ni thalwyd dim llogau ond 4p, 7s. 6c., er y flwyddyn 1854. Ond derbyniwyd yn llogau o'r banc oddiwrth arian y Gymdeithas, 433p. 7s. Arbedwyd talu llogau gan arian y Gymdeithas (yn ol pedair punt y cant) 595p. 10s. Wrth roddi y ddau swm gyda'u gilydd—y llogau a dderbyniwyd o'r banc a'r hyn a arbedwyd rhag talu llogau—fe enillwyd i'r