Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

achos trwy y Gymdeithas y swm o 1028p. 17s. Y mae swm yr arian yn y Gymdeithas, fel rheol, yn amrywio o 300p. i 1500p.

YR ACHOS DIRWESTOL.

Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol cyntaf yn Mlaenau Ffestiniog, yn nghapel Bethesda, Hydref 25ain, 1836. Llywyddwyd gan y Parch. Thomas Williams; a'r prif siaradwr oedd Mr. W. Ellis Edwards, Penrhos (y Parch. W. Edwards, Aberdâr, wedi hyny). Ardystiodd 104 ar ddiwedd y cyfarfod. "Rhagfyr 2lain, y flwyddyn hono, cafwyd gwyl ddirwestol yn y lle, pryd y rhoddwyd diwrnod cyfan i'r gwaith, gan ddechreu gyda chyfarfod gweddi am chwech o'r gloch yn y boreu...... ......... Yr oedd y nifer Ionawr 12fed, 1837, yn y Blaenau yn 803; Llan Ffestiniog, 278; Coed Bach, 40—cyfanrif, 1,121. Bu dirwest yn flodeuog iawn yn y lle am lawer o flynyddoedd, ac ni bu unrhyw adeg o'r dechreuad, er pob dirywiad, nad oedd yma lawer o ddirwestwyr cywir; ac ar adegau o fywhad neillduol, cyfrifwyd hwy wrth y canoedd."[1] Y mae llwyrymwrthodiad wedi bod bob amser yn yr eglwys hon a'r eglwysi cylchynol yn amod aelodaeth eglwysig. Yn niwedd Hydref, 1886, cynhaliwyd yn y Blaenau Jiwbili Ddirwestol, pryd y rhoddwyd hanes y dechreuad gan ddau o frodorion yr ardal, Mri. Edward Evans, Fourcrosses, a John Hughes, Draper. Y tri enw cyntaf ar lyfr dirwest yn Ffestiniog oeddynt, Griffith Ellis, Pantyryn; Gwen Jones, Neuadd-ddu; a Dafydd Williams, Coedybleiddia. Ardystiodd rhai am dri mis "i dreio;" eraill am chwe' mis, eraill am flwyddyn. Ond yr oedd Samuel Jones, Tanygraig, ac un neu ddau eraill, yn ddigon gwrol i' ardystio am byth. Diwrnod yr wyl y cyfeiriwyd ati, sef Rhagfyr, 1836, dywedir i bob copa walltog fyned o'r Blaenau i'r Llan, lle cynhelid cyfarfod cyhoeddus yn yr awyr agored,

  1. Y Diwygiad Dirwestol, Parch. J. Thomas, D.D., tudal. 91.