Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganol gauaf. Yr oedd yr achos yn llwyddo trwy ganu,—canu, canu, a chanu oedd pob peth ar y pryd. Rhoddwyd y penill canlynol allan i'w ganu wrth Blaenddol, pan oedd yr orymdaith ar gyraedd i'r pentref:—

"Elias y Thesbiad a deithiodd fel gwr,
Ar deisen o fara a dysglaid o ddwr;
Fe'i porthwyd gan gigfran-mae'n hynod o syn,
Ac yfodd o'r afon, mae'n siwr y pryd hyn."

Crybwyllwyd yn nghyfarfod y jiwbili am Dr. Charles, o'r Bala, yn dyfod trwy y wlad i areithio ar ddrygedd "alcohol," a'r modd y byddai yn ei losgi i ddangos y gwenwyn oedd ynddo, ac am y gwrthwynebiad cryf a ddangosid iddo gan rai, yn enwedig gan rai hen feddwon. Yn Nhrawsfynydd, yr oedd hen lanhawr clociau yn byw, o'r enw "John Hislyn," yr hwn a elai o amgylch gyda'i orchwyl. Yr oedd y cymeriad hynod hwn yn bur hoff o'i "lasiad," ac ystyrid ef yn wastad fel bwgan y plant; pan wnelai y plant rhyw ddrwg, ni byddai dim mor gyffredin a bygwth "John Hislyn" arnynt. Gwnaethai Dr. Charles ei gynhyrfu nid ychydig wrth ddweyd yn erbyn y glasiad, ac meddai yr hen "John Hislyn" am y Doctor, "Yr hen ysgogyn balch yna o'r Coleg yn dweyd fod hyn a hyn o wenwyn mewn glasiad; ond peidied o a meddw!, y mae acw, yn Nhrawsfynydd, rai all wneyd sums cystal ag yntau. Dyna i chwi yr hen Sion Pritchard, Trawsfynydd, acw-y mae ef wedi yfed galwyni lawer o gwrw, ac yn ol system yr ysgogyn balch yna o'r Bala, y mae ysgolheigion Trawsfynydd yn cael allan fod Sion Pritchard wedi llyncu dros 15 pwys o wenwyn. Dyna i chwi gelwydd goleu, fod yr un dyn wedi byw ar ol llyncu 15 pwys o wenwyn." Engraifft eithafol yr amseroedd hyny o ymresymu ydoedd hyn. Gwnaeth dirwest les dirfawr yn yr eglwysi, trwy drawsnewid y rhai a arferent slotian gyda'r ddiod. Trwy lwyrymwrthod daeth llawer yn ddynion o ymddiried yn yr eglwys a'r byd.