Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu yr eglwys yn arosol yn Neuadd-ddu am y saith mlynedd cyntaf. Byddai nifer y pregethwyr a bregethent yno yn fisol yn amrywio o 7 i 17. Yn 1820 bu yno 154 o bregethwyr. Y swm a dalwyd i'r nifer hwn oedd 10p. 6s. Yr oedd Owen Robert, gŵr y tŷ, a'r blaenor cyntaf erioed yn y plwyf, wedi marw flwyddyn cyn symudiad yr eglwys yno o'r Llan. Ei fab, Robert Owen, yn llanc 19 oed, heb na thad na mam, na brawd na chwaer, a breswyliai yn Neuadd-ddu, flwyddyn ei sefydliad, sef 1819. Ymhen rhyw gymaint o amser, digwyddodd tro hynod mewn cysylltiadau teuluaidd. Nid oedd tenant a phreswylydd y tŷ yn briod, ond cadwai house-keeper, fel y gwna eraill yn yr un amgylchiadau. Ofnai yr hen frodyr crefyddol i rywbeth allan o le ddigwydd, gan mai y tŷ hwn oedd cartref yr achos yn ei holl ranau. Ac yn eu gorfanylwch a'u gorofal, wedi rhoddi eu penau ynghyd, trefnasant i William Owen (llanc arall dibriod) fyned yno i letya, gan gwbl gredu y cadwai ef lywodraeth ar y tŷ. Paham yr anfonasant ef yno nid yw yn hysbys, ond fe ddichon mai am y rheswm eu bod yn gweled ynddo fwy o arwyddion sadrwydd. Modd bynag, cyn pen ychydig, fe briododd William Owen ei hun Catherine Owen, yr house-keeper. Mor debyg i droion meibion a merched dynion!

Y Cyfarfod Misol cyntaf, yn ol llyfrau yr eglwys, a gynhaliwyd yma ydoedd ymhen pum' mlynedd wedi iddynt ymsefydlu yn y capel, sef ar Hydref 27, 1831. Yr oedd un ar ddeg o bregethwyr ynddo. Talwyd i'r un ar ddeg 14s. 6c. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ei ol yma yr oedd pedwar ar ddeg o bregethwyr y sir yn bresenol, ac yn cael eu talu oll gyda'r swm o 15s. 6c. Cyfarfod pregethu y Pasg cyntaf a gynhaliwyd ydoedd yn 1837. Y rhai a wasanaethent ynddo oeddynt y Parchn. Hugh Edwards, Robert Owen, Evan Roberts, Thomas Williams, Bethesda. Y mae wedi ei gynal yn gyson ar