Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sabbath a Llun y Pasg o hyny hyd yn awr. Yn 1861, darfu i'r frawdoliaeth yn Ffestiniog ymuno â'r eglwys hon i'w gadw, a'r Tabernacl yn 1864. Dywed Mr. Robert Jones, Cae Du- yr hwn a gasglodd lawer o'r hanes hwn-fod holl draul y weinidogaeth yn Bethesda o'r dechreuad, sef o 1819 i ddiwedd 1889, yn 6233p. 5s. 1½c.

Y mae disgyblaeth eglwysig wedi bod yn yr eglwys hon o'r dechreuad, nid yn unig ar ei thraed, ond yn sefyll yn uchel. Byddai yr hen bobl yn orfanwl ac yn ymylu ar greulondeb gyda disgyblaeth. Rhoddir engraifft neu ddwy fel esiampl o'u dull o ddisgyblu. Gofelid am i'r troseddwr fod yn bresenol pan y trinid ei achos, ac os diarddelid ef, elai allan o'r cynulliad yn uniongyrchol. Y mae genym gôf plentyn am un amgylchiad felly; nis gallwn gofio dim ond am y diarddeledig yn galw am ei het i fyned allan, ac am ocheneidiau, yn enwedig y chwiorydd, tra yr ydoedd hyn yn cymeryd lle. Y mae argraff ar ein meddwl fod yno le anarferol o ddifrifol, a bod tori allan o'r eglwys y peth pwysicaf ar y ddaear. Dafydd Walter oedd yr un a ddisgyblid, gŵr a lediaeth y Deheuwyr arno Yr oedd un o'r blaenoriaid yn llym iawn wrtho, a gwingai yntau yn erbyn y symbylau. O'r diwedd dywedai, "Paid ti a meddwl R-W-dy fod di fel papyr gwyn; mi wn i yn abal da be wyt ti; nid wyt ti na llawer o honoch fawr gwell na fina gyda'r grefydd yma, beth bynag. Ddof fi byth dan eich cronglwyd chwi eto, yr hen llyffantod; lle ma' ffet i?" Ac allan yr aeth. Ond daeth yn ol wedi hyny, a bu farw ac arwyddion amlwg o Gristion arno.

Daethai gŵr o Lanllyfni i fyw i Ffestiniog, ac ymhen amser ymwelodd cyfeillion o'i hen ardal âg ef. Aeth ef a hwythau ar brydnhawn Sul i ben rhai o'r bryniau cyfagos tra yr oedd moddion yn y capel. Ac yn herwydd ei drosedd, daeth ei achos o flaen yr eglwys yn Bethesda. Trodd yr achos yn ei erbyn yn y ddisgyblaeth, a gorchymynwyd iddo fyned allan.