Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi myned at y drws, trodd yn ei ol, a chan sefyll ar ganol y capel, ac ymaflyd â'i ddwy law yn ei het, dywedai mewn llais toddedig, "Frodyr a chwiorydd anwyl, gweddiwch drosta i." Tynodd y deisyfiad ddagrau o ugeiniau o lygaid, ond ni feiddiai neb ddweyd, "tyred yn ol," rhag anmharu min y ddisgyblaeth. Arweiniodd y cyfaill fywyd pell oddiwrth grefydd am ugain mlynedd, ond daeth yn ol, a pharhaodd hyd henaint yn dirf ac iraidd. Dichon fod ymddygiad y brawd yn galw am gerydd, ond a oedd angen am dori allan yn yr amgylchiad hwn?

Dro arall, barnai y brodyr fod yn rhaid disgyblu Sion Evan, gŵr oedd wedi colli ei olwg yn y chwarel. Yr oedd Dafydd Rolant, y Bala, yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sadwrn. Enillai y gŵr hwn ei fywoliaeth trwy gario nwyddau gyda cheffyl a throl, a'r trosedd oedd ei fod wedi cario jiariad o win o Borthmadog i un o'r Hotels yn y Llan. "Beth ydi'r mater arno fo?" gofynai Dafydd Rolant i'r blaenoriaid. "Wel," ebai y blaenor, "y mae yn sobr o beth pan y mae aelodau eglwysig wedi myned i wasanaethu y diafol fel—" "Wel," ebai Dafydd Rolant, "y dyn dall hwnw ydyw Sion Evan, onite? Ac y mae yn ceisio enill ei damaid trwy gario efo ceffyl a throl?" "Ydyw siwr." "Wel, fyddai waeth ganddo gario jiariad o ddŵr na jiariad o win—cael tâl yw y pwnc." "Ond," ebai Samuel Jones, gan ofni erbyn hyn fod yr hen weinidog am gymeryd plaid y troseddwr, "beth a atebwn ni i'r byd annuwiol, Dafydd Rolant?" "Samuel," atebai Dafydd Rolant yn ol, "os daw y byd annuwiol i ofyn rhywbeth ynghylch Sion Evan, deudwch wrth y byd annuwiol, Mind your own business.'"

Yr oedd hen grefyddwyr Bethesda yn bererinion Sion mewn gwirionedd. Faint bynag o golliadau a berthynent iddynt, yn eu sel, eu ffyddlondeb, a'u hymgais i rodio yn ol rheol y gair, rhoddent argraff ar, feddwl byd ac eglwys mai