Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

crefydd oedd eu peth penaf. Yn yr hen gapel cyntaf yr oedd pulpud bach wedi ei gyfodi i uchder haner y ffordd oddiwrth y llawr at y pulpud mawr. Yn hwnw yr eisteddai y blaenoriaid, ac yr oedd mor fach nad oedd le i ond tri neu bedwar ynddo. Gosodid y blaenoriaid gymaint a hyny yn nes at y pregethwr, ac yn bellach oddiwrth y bobl. Felly y disgwylid iddynt fod, ac felly yr oeddynt, yn eu crefydd a'u dylanwad. Hwy o'r pulpud bach fyddai yn trin holl achosion ysbrydol yr eglwys, yn gystal a'i hamgylchiadau allanol. O bob tu i'r pulpud yr oedd tair o eisteddleoedd, yn y rhai yr eisteddai yr hynafgwyr a'r hynafwragedd. Y rhai a lanwent y rhai hyn, yn wyr ac yn wragedd, oeddynt bigion yr eglwys mewn duwioldeb; a phwy allasai ameu gwirioneddolrwydd eu crefydd? Nid rhyfedd i'r hen bregethwyr gael odfeuon a myn'd ynddynt, gyda'r fath nifer o saint, fel Aaron a Hur, yn cynal eu breichiau, ac yn rhoddi eu hamen cynes gyda eu gweinidogaeth.

Nis gellir yma ond yn brin roddi enwau rhai o hynafgwyr a gwragedd penaf yr eglwys. Griffith Ellis, Pantyryn; Robert Richards, Tŷ'nycefn; Evan Jones, Tanyclogwyn, oeddynt grefyddol iawn, ac yn "halen y ddaear." Richard Griffith, Plasyndre, oedd yn nofiwr rhagorol pan gyfodai y dwfr i dipyn o uchder. Mewn cyfarfod gweddi un nos Sabbath, wrth ganu y penill, "Ni bydd yno gofio beiau," &c., cafodd afael yn y ddwy linell olaf, fel y buwyd am faith amser yn dyblu a threblu y gân. Abram Jones a roddai fywyd yn y moddion gyda'i Amen cynes; a phan elwid yr enwau i dalu y tro mis, gyda'i lais bloesg a waeddai dros y capel, "Croesa." Ni wyddai y plant y pryd hwnw ddim mai rhoddi croes ei fod yn dyfod i dalu ei gasgliad a feddyliai. Hynodid Samuel Jones, Tanygraig, fel un fyddai beunydd yn cyfodi ei lais yn groch yn erbyn drwg arferion, ac fel gweddiwr gafaelgar. Llanwodd ei gylch ei hun yn gystal a neb o'i frodyr. Canmolai lawer