Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar draethawd John Elias ar Gyfiawnhad, ac yr oedd ganddo ddwfn barch i lyfr arall, yr hwn a elwid ganddo ef ei hun, "Yr hen Gyffes anwyl." William Owen, Tŷ Capel, oedd wr llawn o sel a llawn o waith. Ni bu ei gymhwysach i gadw tŷ capel erioed. Hynodid ef am ei barodrwydd i wneuthur pob gwaith gydag achos crefydd. Pan y gwrthodai rhyw frawd wneyd unrhyw orchwyl, byddai ef ar ei draed yn ebrwydd yn gofyn a gai ef ei wneuthur. Buasai W. Owen yn un o'r blaenoriaid goreu yn yr oes hon. Lewis Jones, Bryneithin, oedd un o'r meddylwyr cryfaf a fu yn perthyn i'r eglwys. Yr Ysgol Sul, athrawiaeth a phwnc, oedd ei faes neillduol ef. Bu yn athraw ar gyfarfod darllen, yr hwn a gynhelid, fynychaf, wyth o'r gloch boreu Sabbath, am ragor nag 20 mlynedd. Cofir gan y bobl hynaf yn arbenig am ddau ŵr ieuanc a roddasant amlygrwydd o dduwioldeb nodedig, ac addfedrwydd i'r nefoedd, lawer tuhwnt i'r cyffredin, sef William Thomas, Fucheswen, a Robert Jones, Peniel. Ymhlith chwiorydd yr eglwys, Catherine Owen, Tŷ'r Capel, oedd un o'r rhai amlycaf fel canlynwyr yr Iesu. Ei harafwch, ei thymer grefyddol wastad, a'i gofal am weinidogion y gair, oeddynt yn hysbys i bawb yn ei dydd. Gwraig ddeallus, bwyllus, uchel ei chyrhaeddiadau mewn gwybodaeth a chrefydd, oedd Laura Jones, priod y diacon gweithgar Pierce Jones; mor awyddus a medrus fyddai i hyrwyddo pob rhan o achos yr Arglwydd yn ei flaen. Duwioldeb Mari Rhys oedd yn amlwg. Ryw adeg, yr oedd perchenogion un o'r chwarelau wedi rhoddi swm anferth o bowdwr o dan fanc y Brynpoeth, a rhoddwyd gorchymyn i'r holl drigolion yn y cyffiniau i fyned yn ddigon pell y diwrnod yr oeddis yn myned i'w chwythu i fyny. Mewn ufudd-dod, ciliodd pawb o'u tai i ben y bryniau a'r mynyddoedd; ond y lle yr aeth Mari Rhys iddo i lechu oedd i gapel Bethesda, gan gredu y byddai yno yn ddiogel rhag pob peryglon. Y fath ffyddlondeb a ddangosid gan Anne