Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Owen ac Ellin Jones, Pengwern, hyd yn nod yn eu henaint, . yn dyfod yr holl ffordd i fyny i'r capel i bob moddion o ras, a byddent yno fel y cloc at y fynyd. Mrs. Vaughan, Tanymanod, a ddeuai i'r capel yn gyson ar ei cheffyl—nis gallai gerdded a byddai yn un o'r rhai cyntaf i dori allan mewn gorfoledd ar adegau neillduol. Dichon yr esgusodir yr ysgrifenydd yn crybwyll am ei fam ei hun, yr hon oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a diabsen o honynt oll. Ni chlywodd ei lliaws plant mohoni erioed yn dweyd gair bach am na chymydog, na chrefyddwr, na blaenor, na phregethwr. Nid crefydd mewn gair yn unig oedd ei chrefydd hi, ond mewn gweithred ac esiampl. Hen bererinion hoff!

"Gan nad oedd pregethu yn yr ardal (Tanygrisiau), byddai y rhai mewn oed yn cyrchu i gapel Bethesda yn lled aml i gael pregeth (o 1830 i 1840). Ac fel y tyfasom ninau y plant i fyny, dechreuasom ddilyn ein rhieni ambell waith ar y Sabbothau teg yn yr hâf, a da yr ydym yn cofio preswylwyr y Cwm, yn rhieni ac yn blant, yn myned yn fintai dros y Bwlch Llydan, ar draws Cwm Bowydd, tua chapel Bethesda. Cyrchasom lawer i'r hen gapel hwn gyda sel a brwdfrydedd mawr, a byddem yn ei hystyried yn fraint fawr cael dweyd adnod yn y seiat cyn dechreu y bregeth boreu Sabbath. Ac y mae darlun o'r "Pulpud Bach," lle y byddai yr hen flaenoriaid, Robert Owen, Neuadd-ddu; Robert William, Penybryn; ac Owen Thomas, Fucheswen, yn eglur o flaen fy meddwl hyd heddyw. Yr oedd y tri fel angylion Duw yn ein golwg ni y plant, ac yr oedd iddynt le parchus yn meddyliau rhai mewn oed hefyd. Ond yr oeddym ni, y plant, yn gallu canfod gwahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd Robert William yn benderfynol iawn, ac yn lled lym ar bob mater, a Robert Owen, i raddau, yr un fath, tra yr oedd Owen Thomas, fel "Daniel, ŵr anwyl," yn feddianol ar lawer o dynerwch a sirioldeb. Yr oedd o ddoniau naturiol hwylus, dros ben, a