Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD I.

——————

AGWEDD Y TRIGOLION YN Y PARTH HWN O'R SIR CYN CYFODIAD METHODISTIAETH

CYNWYSIAD.-Cipdrem ar y wlad—Cynydd y boblogaeth—Vestry Plwyf Ffestiniog—Blynyddau o galedi—Gwrthwynebu cyfleusderau teithio—Darluniad o'r hen frodorion—Yr arferion ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd—Y dull gyda chladdu y marw—Mari y Fantell Wen.

  MAE cylch yr hanes y bwriedir ei roddi yn y tudalenau dilynol, yn cynwys rhanau o Sir Feirionydd sydd wedi cario dylanwad mawr ar ei chrefydd hi. O fewn y rhandir hwn o'r sir y mae Penrhyndeudraeth a Maentwrog, dwy ardal yr ymwelodd yr Arglwydd â hwy yn foreu, yn nhrefn ei ragluniaeth a'i ras. Ac fe fydd olrhain y ffordd y cymerodd hyny le, nid yn unig yn ddyddorol ynddo ei hun, ond yn foddion hefyd i weled pa fodd yr ymdaenodd goleuni yr efengyl dros ranau eraill y wlad.

I wneuthur y ffordd yn eglur i'r darllenydd, fe gofir fod yr hyn a adnabyddir gan Fethodistiaid Calfinaidd y sir fel Dosbarth Ffestiniog, yn cymeryd i fewn y wlad, o gwr pellaf ardal Trawsfynydd i waelod isaf ardal Penrhyndeudraeth. Yn yr oll o'r ardaloedd hyn, yn yr adeg bresenol—megis hefyd y mae wedi bod er's amryw flynyddoedd—ceir golwg flodeuog ar deyrnas yr Arglwydd Iesu, ymysg pob enwad crefyddol fel eu gilydd. Er hyny, nid oes le yn y sir, nac ychwaith mae'n debyg yn Nghymru, sydd wedi myned trwy gymaint o gyfnewidiadau, yn wladol a chrefyddol, yn ystod y can' mlynedd