Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diweddaf. Gadawer i ni gymeryd cipdrem ar y rhan yma o'r wlad cyn i grefydd gymeryd meddiant o honi.

Y mae yr ardaloedd hyn wedi cynyddu yn ddirfawr, mewn amser diweddar, yn nifer y boblogaeth. Ac y mae yn rhaid cymeryd hyn i'r cyfrif, mewn trefn i gael syniad gweddol gywir am agwedd y trigolion oddeutu canol a diwedd y ganrif ddiweddaf. Oblegid, ar wahan oddiwrth gynydd gwareiddiad a chrefydd, y mae a wnelo amlder trigolion gwlad lawer â ffurfio ei chymeriad. Ffurfir a newidir y cymeriad yn llawer cyflymach pan fyddo nifer y trigolion yn lliosog, nag mewn gwlad deneu ei phoblogaeth. Plwyf Ffestiniog ydyw y lle pwysicaf yn y cylchoedd hyn. Dibyna y cymydogaethau cyfagos arno ef, nid yn unig am eu cynhaliaeth a'u cynydd, ond am bron yr oll o'u symudiadau cymdeithasol. Fel mai yr un peth, i fesur helaeth, ydyw symudiadau y plwyf hwn a symudiadau yr ardaloedd cylchynol, a'r un peth hefyd yn gymhariaethol ydyw hanes dadblygiad cymeriad yn y naill ag yn y lleill. A chaniatau i ni allu gosod ein hunain ar ben un o fryniau Ffestiniog tua chanol y ganrif ddiweddaf; caem ar unwaith fod pobpeth ond y bryniau a'r mynyddoedd yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn awr. A'r hyn a'n tarawai gyntaf, ond odid, fuasai bychander y lle mewn ystyr fasnachol a chymdeithasol. Mor anaml y pryd hwnw yr anedd-dai! Mor ychydig oedd nifer y trigolion, ac mor hynafol eu harferion! Nid oedd poblogaeth y plwyf yn y flwyddyn 1700 ond o 460 i 470; ac ni bu y cynydd yn ystod y can' mlynedd dilynol ond 240. Felly, yn nechreu y ganrif bresenol, rhif yr holl eneidiau yn y plwyf oedd oddeutu 710. Yr ydys yn cael y cyfrif hwn allan oddiwrth nifer y marwolaethau a'r genedigaethau yn Llyfr Cofrestriad y Plwyf. Hynod mor araf y cynyddai y boblogaeth. "Yn y flwyddyn 1699, ni chymerodd yr un briodas le yn y plwyf. Nulla Matrimona Contracta, — geir yn yr hen Register." Eto, "yn 1704, Conjugata Nulla,