Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—dim priodas. Ac y mae y blynyddoedd 1709 a 1710 hefyd heb yr un briodas wedi ei chofrestru."[1] Caledi yr amseroedd a roddir fel un rheswm dros hyn.

Wrth edrych ar bethau o'r presenol, pa fodd bynag, y mae yn achos o syndod fod y boblogaeth mor deneu gan' mlynedd yn ol. Cyffelyb ydoedd hefyd yn y plwyfi cylchynol i'r plwyf hwn. Dengys y ffugyrau canlynol y modd y cymerodd y cynydd le yn mhlwyf Ffestiniog:—Yn 1821, yr oedd rhif y trigolion yn 1,168; yn 1841, yr oedd yn 3,133; yn 1861, yn 4,553; yn 1871, yn 8,062; ac yn 1881, rhifai y trigolion oddeutu 13,000.

Y mae yn hysbys i bawb sydd wedi sylwi, mai agoriad y llech-chwarelau, a'r llwyddiant a ddilynodd y fasnach mewn llechau, a barodd y cynydd uchod yn y boblogaeth. Dechreuwyd eu hagor ryw adeg rhwng 1750 a 1760. Dywedir, ar awdurdod sicr, fod eu darganfyddiad yn ganlyniad breuddwyd gŵr o Sir Gaernarfon, o'r enw Methusalem Jones, tad y Parch. John Jones, o Edeyrn. Breuddwydiodd y gŵr hwn fod chwarel dda yn Ngheunant y Diffwys; ac ar bwys ei freuddwyd, cerddodd yr holl ffordd o Fynydd y Cilgwyn, yn Sir Gaernarfon, i Ffestiniog. Wedi cloddio ychydig, cafodd fod yno chwarel, yn hollol fel y breuddwydiodd.[2] A'r Diffwys oedd y gyntaf o'r chwarelau a ddarganfyddwyd ac a agorwyd. Araf fu y gweithio ynddynt am yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol eu darganfyddiad. Digon yn y lle hwn yw hysbysu, mai rhwng 1818 ac 1825 y dechreuwyd agor y prif chwarelau, y rhai a fu yn foddion neillduol i ychwanegu y boblogaeth, ac i ddwyn y lle i'r fath gyhoeddusrwydd.

Nid annyddorol, i ddangos agwedd yr amserau, fyddai rhoddi dyfyniad neu ddau a gafwyd o Lyfr Vestry Plwyf

  1. Hanes Plwyf Ffestiniog, gan Mr. G. J. Williams, F.G.S., tudalen 66.
  2. Traethodydd 1868, tudal. 368.