Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ffestiniog. Yr oedd 1815 ac 1816 yn flynyddoedd o gyfyngder, ac yn ngwyneb fod llawer o ddieithriaid yn dyfod i'r ardal i weithio yn y cloddfeydd, a'r treuliau i symud y tlodion o'r naill blwyf i'r llall yn cynyddu, a'r trethi, mewn canlyniad, yn myned yn uchel, gwnaethpwyd ymdrechion egniol gan y plwyfolion i atal ychwaneg o ddieithriaid i ddyfod yma. Yn Vestry Mawrth 19, 1817, penderfynwyd,—"Er mwyn atal hyn hyd y byddo modd, yr ydym ni sydd a'n henwau isod, yn rhwymo ein hunain â'n gilydd i anghefnogi dyfodiad dieithriaid neu estroniaid i'r plwyf, fydd yn debyg o dd'od i ddibynu arno am eu cynhaliaeth. Ond gan ein bod yn ofni na wna y gyfraith orfodi unrhyw berson i beidio gosod ei derfynau (premises), neu unrhyw ran o honynt i'r neb y myno, yr ydym ni yn cytuno fod pob person a osodo ystafelloedd, tŷ, neu dai anedd, neu unrhyw leoedd eraill, o ba ddisgrifiad bynag y byddont, i bersonau neu berson heb fod yn perthyn i'r plwyf hwn yn barod, yn gorfod symud yr unrhyw dlotyn neu dlodion heb unrhyw gymorth gan y plwyf, OND AR EI GYFRIFOLDEB, EI DRAFFERTH, NEU EI DRAUL EI HUN YN UNIG, i'w plwyfau eu hunain, trwy orchymyn yr Ynadon, i'r man y cyfarwyddent hwy.[1]

Eto, penderfynwyd yn Vestry Awst 27ain, 1821,—" Nad oes neb perthynol i'r plwyf hwn i gyflogi gwas neu forwyn i unrhyw wasanaeth bynag am ragor na chwe' mis (calendar), a'r un modd, nad oes un teulu i gael caniatad i aros, nac i wneuthur un esgusawd dros aros, yn y plwyf hwn, os nad ydynt yn perthyn i'r unrhyw, heb drwydded foddhaol oddiwrth eu plwyf neu eu plwyfau eu hunain, er boddlonrwydd i drigolion y plwyf hwn."[1]

Ymddengys y gweithrediadau hyn yn awr yn ddieithriol. Pa mor bell y cariwyd y penderfyniadau uchod allan, nid

  1. 1.0 1.1 Hanes Plwyf Ffestiniog, Mr. G. J. W., tudal. 135.