Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr eglwys, ac yn eu plith Owen Owens, R. Jones (Caedu yn awr), a G. Pritchard (Gorphwysfa yn awr). Wedi ymfudo i'r America, ymsefydlodd yn Fair Haven, Vt. Llwyddodd yn fawr mewn pethau bydol, ac mewn crefydd. Efe oedd y dyn mwyaf ei ddylanwad yn ei ardal. Bu yn flaenor eglwysig am tua 35 mlynedd. Bu farw mewn tangnefedd llawn, Ionawr 2il, 1886, yn 71 mlwydd oed.

Y Parch. Owen Roberts a ddaeth yma o Bettws-y-coed yn 1854, ac wedi bod yn llafurus a chymeradwy am dros bedair blynedd, ymadawodd i fod yn weinidog yn Rhiwspardyn, yn 1858. Dechreuodd Mr. Robert J. Williams, Caegwyn, bregethu yn 1874. Yn haf 1859, daeth y Parch. Francis Jones yma yn weinidog, ar orpheniad ei dymor yn Athrofa y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1860, ac yn niwedd y flwyddyn hono, ymadawodd i'w gartref yn Sir Drefaldwyn, oherwydd -cysylltiadau teuluaidd. Cafodd lygad a heulwen y Diwygiad tra bu yma, ac yr oedd ei wasanaeth yn gymeradwy. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yma yn Ionawr, 1864; ymadawodd i Liverpool Mehefin 1872. Bu yntau yn ddefnyddiol a chymeradwy yn eglwysi y Tabernacl a Bethesda am wyth mlynedd a haner. Y mae y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn weinidog y ddwy eglwys er Ionawr 1874, ac yn gweithio a'i holl egni ymhob cylch.

Y BLAENORIAID.

ROBERT WILLIAM, PENYBRYN.

Dywedir ei fod ef yn swyddog yn Ffestiniog, a'i fod yn dyfod gyda'r eglwys ar ei hymsefydliad yn Neuadd-ddu, yn 1819. Dyn hallt yn erbyn pechod oedd ef, a disgyblwr llym. Pan y deuai achos troseddwr gerbron yr eglwys, arferai ddweyd, "ddiodda i byth mohono, frodyr bach." Un o'r sect fanylaf o'r hen flaenoriaid oedd. Dywedai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, wrtho ryw adeg, "Robert, yr wyt