Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tithau wedi bod yn llawer mwy gofalus i fod yn onest yn dy oes, nac i fod yn ddoeth." Er hyny, yr oedd yn gymeriad a phwysau ynddo, ac yn flaenor o gryn werth. Ymfudodd ef a'i deulu i America yn 1845, ac yr oedd y golled ar ei ol yn cael ei theimlo yn fawr, gan fod ei deulu yn lliosog, a'i fab hynaf yn arweinydd y canu. Dewiswyd ef yn ddiacon yn America.

OWEN THOMAS, FUCHESWEN.

Yr oedd ef yn flaenor yn Penmachno yn 1825. Daeth i fyw i Ffestiniog yn 1830, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda ar unwaith. Dywedir i'r eglwys hon ei gymeryd yn fater gweddi am i'r Arglwydd anfon blaenor iddi, ac i O. T. symud o Benmachno yr adeg y cymerodd hyn le. Gwr o dymer naturiol dyner ac addfwyn oedd ef; darllenwr mawr, meddyliwr lled alluog, a meddai ddawn i draethu ei feddwl yn oleu. "Cynysgaeddwyd ef â doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniaid ar ei bethau, yn enwedig ei weddiau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gyda'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio rhoddi llawer o benau ar ei bregeth, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben." Yr oedd yn ffraeth a chyrhaeddgar ei ddywediadau. Ond trwy ei dynerwch, ei dduwioldeb, a'i ysbryd addfwyn, yr enillodd y lle a'r parch a roddid iddo. Yr oedd yn un o'r rhai goreu yn yr holl wlad am gadw y cyfarfod eglwysig. Bu farw Rhagfyr 2, 1855, yn 57 oed, wedi bod yn gwasanaethu swydd blaenor gyda graddau neillduol o ffyddlondeb am ddeng mlynedd ar hugain. Yr oedd ef yn dad i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, Croesor.

ROBERT OWEN, NEUADD-DDU.

Ganwyd ef yn 1800 yn Bwlchiocyn, a symudodd y teulu i