Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Neuadd-ddu pan oedd ef yn naw oed. Ei dad, fel y crybwyllwyd, oedd y blaenor cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog, a phan yn 19 oed, rhoddodd yntau ei dy i sefydlu eglwys Bethesda ynddo, a bu yno am saith mlynedd. Neillduwyd ef yn flaenor oddeutu 1835. Dygodd deulu lliosog i fyny gyda chrefydd. Cyfarfyddodd â llawer o dreialon y byd, ac aeth trwyddynt gyda gwroldeb, a gorphenodd ei yrfa ddaearol, Mawrth 4, 1871. Fel hyn y dywed rhai o'i gyfeillion am dano,-"Pe buasai ychydig o'r un feddwl ag ef ymhob eglwys, buasai llawer o bethau yn mhellach ymlaen. Byddai yn arfer a dweyd ei fod haner cant o flynyddoedd o'n blaenau ni oll. Yr ydoedd felly mewn gwirionedd." "Darllenai lawer ar y cyfnodolion, yn grefyddol a gwladol; dilynai ysbryd yr oes yn ei holl ddiwygiadau, a meddai farn addfed ar bynciau y dydd." "Parod ei air a'i gyngor bob amser; selog iawn gyda phob moddion. Mewn ffydd ac ewyllys i waith, yr ydoedd o flaen pawb yn y wlad " "Meddai ar graffder mawr i ddeall cyfeiriad ac arwyddion yr amserau; ei fywiogrwydd, a'i weithgarwch, a'i haelioni oeddynt yn nodedig."

Y tri blaenor hyn oeddynt golofnau cyntaf yr eglwys, ac y mae un a'u hadwaenai wedi crynhoi eu nodweddion i dri gair, Llymder, Tynerwch, a Gwaith.

EDWARD JONES, YSGOLNEWYDD,

a fu yn y swydd yma am ychydig cyn ei fynediad i America, oddeutu 1840. John Pierce-A fu yn flaenor yn Bethesda ; symudodd gyda'r eglwys i Tanygrisiau yn 1838. Thomas Williams hefyd a fu yn ddiacon am ychydig cyn iddo ddechreu pregethu.

JOHN ABRAM JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yr eglwys hon yn Nghyfarfod. Misol Siloam, Mai 1847, pryd yr