Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd Lewis Morris yn gymedrolwr. Dyn darllengar a myfyrgar, athrawaidd, ac yn gofalu llawer am yr athrawiaeth. Ymadawodd oddiyma i Drefriw, a bu yn ddiacon yno. Symudodd drachefn i Lanrwst, lle y diweddodd ei ddyddiau. Gwasanaethodd swydd blaenor yno hefyd.

OWEN OWENS, BETHESDA.

Mab ydoedd ef i William Owen, selog a charuaidd, yr hwn y crybwyllwyd eisoes am dano. Neillduwyd Owen Owens a Robert Griffith, yn awr o Ffestiniog, yr un noswaith, yn niwedd y flwyddyn 1851. Gŵr ieuanc o feddwl cryf a ffrwythlon oedd ef, a'i gynydd mewn gwybodaeth a phrofiad o bethau crefydd yn eglur i bawb. Arferai gymeryd adnod, wrth fyned at ei waith yn y boreu, i fod yn destyn myfyrdod ar hyd y dydd. O'r holl flaenoriaid a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreu, O. Owens oedd yr ymadroddwr penaf. Wedi derbyn bendith trwy gystudd maith, bu farw Mehefin 18fed, 1858, yn 34 mlwydd oed.

PIERCE JONES, PENYGROES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1857, a Mr. Thomas Williams, Croesor yn awr, yr un adeg. Gŵr oedd ef a fedyddiwyd yn y rhan olaf o'i oes yn nodedig gan ysbryd crefydd. Wedi ei neillduo i'r swydd, ymroddodd i bob gwaith crefyddol i raddau uchel iawn, ac anfynych y gwelwyd neb yn fwy yn ei elfen yn gwasanaethu achos yr Arglwydd Iesu. Yn amser y diwygiad, noson gyntaf Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1860, yr oedd wedi tori allan yn orfoledd cyffredinol. Yr oedd Pierce Jones yn un o'r rhai penaf yn y gorfoledd y noswaith nono. Cafodd afael yn yr adnod yn y bumed benod o Rhufeiniaid,-"Trwy yr Hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i'r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll." Safai ar ei draed, mewn eisteddle heb fod ymhell